Achub dynes oddi ar Yr Wyddfa yn Storm Brian

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tim achub mynydd Llanberis yn achub dynes oddi ar yr Wyddfa yn ystod storm Brian

Bu'n rhaid i dîm achub mynydd frwydro drwy'r gwynt a'r glaw brynhawn Sadwrn i achub dynes a gafodd ei chwythu oddi ar lethrau'r Wyddfa.

Roedd y ddynes wedi galw am gymorth ar ôl iddi anafu ei ffêr a'i bys hanner ffordd i fyny'r mynydd yn ystod storm Brian.

Fe gymerodd hi bedair awr i 16 aelod o dîm achub mynydd Llanberis ddod â'r ddynes yn ôl i lawr.

Ar un adeg, roedd y gwynt wedi hyrddio 112mya ar y llethrau.

Dywedodd John Grisdale, is-lywydd y tîm achub mynydd Llanberis: "Roedd y ddynes hanner ffordd i fyny'r mynydd pan gafodd hi ei chwythu oddi ar ei thraed.

"Roedd y storm ar ei gwaethaf. Bu'n rhaid i ni ei chario i lawr ac roedd yr amodau yn heriol a dweud y lleiaf."

"Rydyn ni'n cyhoeddi'r un neges o hyd", meddai Mr Grisdale. "Dylai pobl fod wedi paratoi cyn mentro i fyny'r Wyddfa ac mae edrych ar ragolygon y tywydd yn rhan o'r paratoadau yna."

Clirio'r prom

Yn y cyfamser, mae'r gwaith wedi cychwyn o glirio'r llanast a gafodd ei greu yn Aberystwyth gan storm Brian ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhan o wal y prom yn Aberystwyth ei difrodi yn ystod llanw uchel bore a nos Sadwrn

Cafodd rhannau o brom y dre' eu difrodi ar ôl i lanw uchel fore a nos Sadwrn daro yn erbyn y wal ar y traeth.

Roedd swyddogion wedi cau'r ffyrdd o amgylch prom Aberystwyth ers ben bore Sadwrn, ac wedi rhybuddio pobl i gadw draw, yn dilyn pryderon y gallai gwyntoedd cryf gan storm Brian a llanw uchel iawn achosi trafferthion.

Disgrifiad,

Y gwaith o glirio ar y prom yn Aberystwyth yn dilyn Storm Brian

Cafodd rhan o wal y prom, oedd eisioes wedi cael ei dorri yn ystod llanw uchel a gwynt y bore, ei ddifrodi unwaith yn rhagor yn ystod llanw uchel nos Sadwrn.

Bu gweithwyr yn codi'r cerrig oddi ar y prom dros nos a'u cludo i fan diogel.

Bydd y ffordd ar hyd y prom ar gau weddill y dydd er mwyn caniatáu gwaith o glirio'r tywod a cherrig mân a gafodd eu golchi i'r lan.