Labeli recordio yn cydweithio i 'gryfhau'r sin' Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
labeli

Mae rhai o labeli recordio amlycaf Cymru wedi cytuno i ddechrau cydweithio mewn ymgais i "gryfhau" ac i "broffesiynoli" y sin gerddoriaeth Gymraeg.

Mae cwmnïau Sain a Turnstile wedi cadarnhau eu bod wedi cydweithio'n agos dros y misoedd diwethaf ar gynlluniau i ddatblygu'r byd recordio a chyhoeddi Cymraeg.

Gobaith y cwmnïau yw gallu cynnig ystod eang o wasanaethau er mwyn "cryfhau" a datblygu labeli annibynnol yng Nghymru.

Darganfod mwy o artistiaid

Eglurodd Alun Llwyd o gwmni Turnstile, fod y datblygiad yn dilyn trafodaethau gyda nifer o labeli, a bod y cydweithio yn mynd i allu cynnig amryw o wasanaethau a chefnogaeth ymarferol i'r cwmnïau allu tyfu.

Yn y pen draw y gobaith yw arwain at ryddhau mwy o recordiau a darganfod a hyrwyddo mwy o artistiaid.

Ymysg yr ystod o wasanaethau fydd yn cael eu rhannu, bydd:

  • System ddosbarthu fyd-eang;

  • Cymorth marchnata;

  • Cyngor cynllunio ymgyrchoedd;

  • Cynnig asiantaeth cyngherddau a hyrwyddo ar-lein.

Mae'r cwmnïau hefyd wedi cadarnhau y bydd rhagor o ddatblygiadau yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Turnstile yn gyfrifol am nifer o artistiaid Cymraeg, gan gynnwys Gruff Rhys

Fe fydd y gwasanaeth labeli yn cael ei sefydlu a'i redeg o swyddfeydd y cwmnïau yn Llandwrog a Chaerdydd.

Mae Turnstile yn gwmni sy'n cynrychioli artistiaid gan gynnwys Charlotte Church, Gruff Rhys, Cate le Bon a Gwenno Saunders.

Cafodd label Sain ei sefydlu yng Nghaerdydd yn 1969, ac fe symudodd y cwmni i stiwdios newydd yn Llandwrog ger Caernarfon yn 1971.

Mae gan y cwmni ôl-gatalog sy'n cynnwys rhai o enwau mwyaf y byd adloniant Cymraeg gan gynnwys Syr Bryn Terfel, Edward H Dafis, Geraint Jarman a Meic Stevens, i enwau mwy newydd y sin fel Yr Ods a Sŵnami.

'Cryfhau a gwarchod annibyniaeth'

Mewn datganiad, dywedodd y cwmnïau: "Rydym ar hyn o bryd yn byw mewn cyfnod lle mae toreth gyfoethog o artistiaid talentog yn ysgrifennu, recordio a pherfformio yn y Gymraeg a chyfnod hefyd lle mae mwy nac erioed o labeli annibynnol yn gweithio a rhyddhau recordiau Cymraeg.

"Pwrpas y gwasanaethau labeli yma fydd cynnig ystod o wahanol wasanaethau a fydd yn cryfhau'r labeli hynny gyda'i gwaith yng Nghymru a thu hwnt.

"Y nod yw y bydd y datblygiad hwn yn gam mawr ymlaen mewn creu strwythur cefnogol hirdymor fydd yn cryfhau a gwarchod annibyniaeth labeli."

Mae rhai o labeli annibynnol Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth i'r cynllun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ywain Gwynedd yn dweud fod y datblygiad yn 'gam mawr' ymlaen

Mae'r canwr Ywain Gwynedd, sy'n rhedeg label Cosh, wedi dweud bod y datblygiad yn "un cyffrous i'r diwydiant cerddorol yng Nghymru gan ei fod yn uno profiad a dealltwriaeth Turnstile gydag adnoddau Sain".

Ychwanegodd: "Da ni 'di bod yn d'eud ers cyfnod rhy hir bod angen proffesiynoli'r sin, ac mae hwn yn gam enfawr i'r cyfeiriad yna."

Dywedodd Gwion Schiavone, sylfaenydd Recordiau I Ka Ching, y byddai'n "edrych ar gyfleoedd i ddatblygu fel label yn ogystal â datblygu ein hartistiaid" gyda chymorth y gwasanaeth.

Mae Gruff Owen o Recordiau Libertino wedi dweud fod y cyhoeddiad wedi dod ar "amser perffaith" i gefnogi artistiaid i "dyfu, ffynnu ac i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg".

Senglau Sain

Rhan arall o'r cynllun yw ail-ryddhau rhai o ganeuon cyfres Senglau Sain o'r 80au, sy'n cynnwys cerddoriaeth artistiaid mor amrywiol â Bando a Rhiannon Tomos a'r Band.

O fis Rhagfyr eleni, mae Sain wedi cadarnhau y bydd rhai o'r senglau yn cael eu hatgyfodi gan ddefnyddio'r un gwaith celf eiconig, ond y tro hwn yn rhyddhau traciau unigol gan artistiaid newydd yn ddigidol.

Bob mis bydd artistiaid newydd yn ymweld â Stiwdio Sain i recordio trac a saethu fideo gyda'r gwaith yn cael ei ryddhau ar y dydd Gwener gyntaf o bob mis. Bydd yr holl senglau yn cael eu rhyddhau mewn casgliad 12 trac ar ddiwedd y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o artistiaid Cymru wedi recordio yn stiwdio Sain, gan gynnwys Yr Ods