Cyfreithloni canabis: ACau'n cwrdd ag ymgyrchwyr

  • Cyhoeddwyd
CanabisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o wledydd eisoes yn caniatáu'r defnydd meddygol o ganabis

Bydd pobl sy'n dioddef o gyflyrau fel sglerosis ymledol (MS), epilepsi a dystonia yn cwrdd ag aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher i drafod y defnydd o ganabis at bwrpasau meddygol.

Daw hyn wrth i ASau baratoi i drafod deddf i gyfreithloni canabis ar gyfer dibenion meddygol.

Mae AS Gorllewin Casnewydd Paul Flynn wedi gosod y mesur gerbron Tŷ'r Cyffredin, sy'n galw am ganiatáu i ganabis gael ei ddefnyddio ar bresgripsiwn gan feddygon.

Bydd y mesur yn cael ei drafod gan ASau yn Nhy'r Cyffredin ym mis Chwefror.

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol fydd yn cynnal y cyfarfod ddydd Mercher.

'Angen trafodaeth'

Dywedodd y cadeirydd, AC Gogledd Cymru Mark Isherwood: "Mae'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddar ynglŷn â'r defnydd o ganabis ar gyfer dibenion meddygol ar gyfer sglerosis ymledol a chyflyrau eraill.

"Mae nifer cynyddol o wledydd sy'n rheoleiddio'r defnydd meddygol o ganabis - Canada, Yr Iseldiroedd, Israel a mwy na 20 talaith yn yr Unol Daleithiau.

"Rydw i wedi cwrdd ag etholwyr sy'n gweld budd o ddefnyddio canabis ar gyfer dibenion meddygol, ond trwy wneud hynny mae'n bosib iddyn nhw gael eu herlyn.

"Mae'r grŵp trawsbleidiol yn teimlo bod angen cael trafodaeth ar y mater yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ymgyrchwyr canabis ymgynnull yn San Steffan cyn i Paul Flynn gyflwyno ei fesur yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos diwethaf

Dywedodd Genevieve Edwards o Gymdeithas MS y DU: "Mae tystiolaeth yn dangos y gall defnyddio canabis ar gyfer pwrpasau meddygol leddfu poen i ddioddefwyr sglerosis ymledol.

"Gall y symptomau fod yn ddidrugaredd a blinedig, a'i gwneud yn amhosib rheoli bywyd pob dydd.

"Mae ein hymchwil yn dangos bod y mwyafrif o bobl gyda MS eisiau cyfreithloni canabis ar gyfer dibenion meddygol ac rydyn ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU ei wneud ar gael i'r 10,000 o bobl gyda MS allai gael budd ohono."