Galw am werthu canabis at bwrpas dibenion meddygol
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchydd canabis wedi dweud ei fod eisiau ail agor caffi lle bydd y planhigyn yn cael ei gynnig ar gyfer dibenion meddygol yn y gogledd.
Roedd Jeff Ditchfield yn wynebu dau achos llys pan roedd yn gyfrifol am gaffi Beggar's Belief yn Y Rhyl, a hynny am bum mlynedd tan 2007.
Nawr mae'n galw ar yr heddlu i ganiatáu gwerthu'r cyffur ar gyfer pobl sydd â chyflyrau meddygol ac mewn poen.
Daw hyn wrth i ASau drafod deddf i gyfreithloni canabis ar gyfer dibenion meddygol yn fuan.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod canabis yn parhau yn gyffur Categori Un ac y bydden nhw yn gorfod defnyddio'r gyfraith pe byddai'n cael ei werthu.
Mae Mr Ditchfield yn dweud bod ei fudiad, Bud Buddies, yn parhau i gyflenwi'r cyffur i bobl yn ddirgel ar gyfer dibenion lladd poen.
Er mai mudiad bach oedden nhw i ddechrau mae'n honni ei fod wedi esblygu yn rhwydwaith ar draws y DU gyda phobl yn tyfu'r planhigyn ac yna yn ei brosesu yn olew a'i gyflenwi am ddim.
Ymateb 'ffafriol'
Dywedodd wrth raglen Radio Wales, Eye on Wales: "Dwi ddim yn deall pam bod pobl sy'n defnyddio canabis ar gyfer dibenion meddygol yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru nag unrhyw lu arall.
"Mae unrhyw adnoddau mae'r heddlu yn eu defnyddio er mwyn gweithredu Deddf Camddefnyddio Cyffuriau a gwahardd canabis yn wastraff arian y trethdalwr."
Ychwanegodd ei fod wedi trafod y mater gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, Arfon Jones ac wedi cael ymateb ffafriol.
"Bydden ni'n hoffi gweithio 'efo fo fel mod i yn medru agor canolfan feddygol yng ngogledd Cymru, er mwyn cynorthwyo pobl sy'n ddifrifol wael, a phobl sy'n marw, heb orfod poeni bob bore, yw'r heddlu yn dod heddiw, ydyn nhw mynd i gicio'r drws i lawr?"
Roedd Mr Ditchfield yn bresennol pan wnaeth AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn osod mesur gerbron Tŷ'r Cyffredin yn galw ar ganiatáu i ganabis gael ei ddefnyddio ar bresgripsiwn gan feddygon.
Bydd y mesur yn cael ei drafod gan ASau ym mis Chwefror.
Yno hefyd oedd Arfon Jones, sydd eisiau i'r cyffur gael ei gyfreithloni ar gyfer diben meddygol ac i bwrpas hamddenol.
Mae wedi cael ei feirniadu am ei safbwynt yn y gorffennol, gyda'r Aelod Cynulliad Darren Millar yn dweud fod canabis yn "sylwedd peryglus" allai achosi "canlyniadau trychinebus" petai'n cael ei gyfreithloni.
'Diwylliant wedi newid'
Dywedodd Mr Jones y byddai'n fodlon ystyried canolfan feddygol: "Dwi'n reit hamddenol am y syniad ond byddai'n golygu ymgynghoriad sylweddol gyda'r cyngor lleol, y prif gwnstabl a'r bwrdd iechyd. Felly mae'n ddyddiau cynnar.
"Dwi'n meddwl bod y diwylliant wedi newid ac os allwn ni brofi bod pobl yn elwa o ddefnyddio canabis am resymau meddygol dwi'n meddwl wnawn ni lwyddo i newid meddyliau."
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod caffis canabis yn anghyfreithlon ac y byddai'r heddlu yn gorfod gweithredu.
Ond ychwanegodd y llefarydd y byddai'r llu yn ceisio "helpu a dim cosbi" pobl sydd yn defnyddio neu gyflenwi canabis am resymau meddygol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2017
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2016