Colegau Cymru'n ailfeddwl cefnogi corff ariannu newydd
- Cyhoeddwyd
Mae colegau addysg bellach yn bygwth tynnu eu cefnogaeth ar gyfer corff ariannu newydd i addysg ôl-16 oed.
Dywedodd Colegau Cymru bod ei gefnogaeth i gomisiwn ariannu newydd yn y fantol oni bai bod chweched dosbarth ysgolion o fewn ei orchwyl.
Byddai'r corff newydd yn disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ac yn gyfrifol am golegau, prifysgolion a dysgu yn y gweithle.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ystyried ymateb i ymgynghoriad diweddar.
Cafodd y cynlluniau am gorff fyddai'n goruchwylio addysg a hyfforddiant ôl-16 eu cyflwyno gan y llywodraeth yn dilyn adolygiad gan yr arbenigwr addysg Yr Athro Ellen Hazelkorn.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys cael gwared ar y Cyngor Cyllido Addysg Uwch a sefydlu corff fyddai â mwy o gyfrifoldebau - y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru.
Colegau Cymru sy'n cynrychioli colegau addysg bellach Cymru, a dywedodd eu prif weithredwr mai un corff ddylai fod yn gyfrifol am ddarpariaeth mewn ysgolion a cholegau.
"Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i ni wahanu dwy ran o'r ddarpariaeth, sydd yr un mor bwysig ar gyfer dyfodol addysg ôl-16 a hyfforddiant yng Nghymru," meddai Iestyn Davies.
"Os dyw'r ysgrifennydd addysg a'r llywodraeth ddim yn ymrwymo i hynny, rydyn ni wir yn cwestiynu faint y byddwn yn gallu cefnogi sefydlu'r corff."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu cyfraniad Colegau Cymru i'r ymgynghoriad diweddar ar gomisiwn i oruchwylio sgiliau a'r sectorau addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru.
"Roedd ein papur gwyn yn cynnwys cwestiynau penodol ar rôl bosib y comisiwn ynglŷn â chweched ddosbarth ysgolion.
"Byddwn nawr yn cymryd yr amser i ystyried yr ymateb i'r Papur Gwyn cyn dechrau ymgynghoriad technegol yn y flwyddyn newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2017