Brexit: 'Cymhlethdodau ychwanegol' i borthladd Caergybi
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai porthladd Caergybi wynebu "haen ychwanegol o gymhlethdod" ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd David Davis wrth ASau Pwyllgor Brexit nad oedd wedi trafod dyfodol y porthladd gyda Llywodraeth Cymru eto, ond ei fod yn fater "'dyn ni'n meddwl amdano".
Cafodd Mr Davis ei holi gan AS Plaid Cymru, Hywel Williams pa drafodaethau yr oedd wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â threfniadau posib ar y ffin rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon.
"Dim byd yn benodol ar Gaergybi eto," oedd ymateb yr ysgrifennydd.
"Bydd gan y llywodraethau datganoledig i gyd faterion eu hunain yn ymwneud â phorthladdoedd," meddai.
'Dim niweidio Iwerddon'
Ychwanegodd: "Fel 'dych chi'n ei ddweud, Caergybi yw'r ffin rhwng Cymru ac Iwerddon mwy neu lai ac o bosib bydd haen ychwanegol o gymhlethdod nes 'mlaen os 'dyn ni'n cael trefniadau arbennig.
"Y gwir yw mai un o'r amcanion - maddeuwch i mi os dwi'n edrych ar bethau o bersbectif y Gwyddelod yn hytrach na'r Cymry am eiliad - yw ceisio canfod datrysiad sydd ddim yn niweidio Iwerddon.
"Iwerddon yw'r wlad sy'n dibynnu fwyaf arnom ni ar gyfer masnach - tua biliwn yr wythnos, i'r ddau gyfeiriad - ac mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn parhau i werthu i ni a thrwom ni i'r cyfandir, ac wrth gwrs mae llawer o hynny yn dod drwy Gaergybi.
"Felly 'dyn ni'n meddwl amdano ond dydyn ni heb gael trafodaethau pendant eto."
Dywedodd Mr Williams fod Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am y ffyrdd yn arwain at y porthladd, yn ogystal â thrydedd bont posib dros y Fenai allai gostio £100m a fyddai o ddiddordeb mawr i allforwyr o Iwerddon.
Yn ôl Mr Davis roedd rhai llywodraethau datganoledig yn anhapus â'r ffordd roedd y pwyllgor rhwng gweinidogion Cymru a'r DU ar Brexit wedi bod yn gweithio, ond maen nhw wedi penderfynu parhau gydag e.
Ychwanegodd fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi "croesawu" cyfeiriad Theresa May yn ei haraith yn Fflorens ar Brexit.