Galw am sicrhau dyfodol pryfaid cop prin
- Cyhoeddwyd
Beth yw eich barn chi am bryfaid cop?
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae angen i bobl feddwl eto am ddelwedd y creaduriaid yn enwedig yng nghyfnod Calan Gaeaf.
Mae 18 rhywogaeth dan fygythiad difrifol yn ôl adolygiad gan CNC a wnaed mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Arachnolegol Brydeinig,
Ymhlith y rhywogaethau prin yng Nghymru mae dau fath o bry cop ogof sy'n byw mewn dau leoliad yn ne Cymru, a'r pry cop tywod sy'n byw ar dwyni tywod mewn tri lleoliad gan gynnwys Morfa Harlech yng Ngwynedd.
Ym Mhrydain mae mwy na 654 o wahanol rywogaethau o bryfaid cop, ac mae dros 500 o'r rheini yn byw yng Nghymru.
'Cwbl angenrheidiol'
Dywedodd Michael Howe, Ecolegydd Infertebratau Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae'r pry cop sy'n rhedeg ar dywod yn feistr ar guddliwio, felly mae'n anodd iawn i'w weld yn nhwyni tywod Morfa Harlech yng Ngogledd Cymru ac mewn twyni eraill yn y DU.
"Mae corryn rafftio'r ffen sydd llawer haws i ddod o hyd iddo i'w weld yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Crymlyn ger Abertawe - dyma un o'n pryfed cop mwyaf gyda'r fenyw yn mesur 13-22mm a'r gwryw yn mesur 10-16mm.
"Mae pryfed cop yn gwbl angenrheidiol ar gyfer yr amgylchedd ac mae'r adolygiad hwn yn pwysleisio'r angen i weithredu er mwyn rhwystro diflaniad rhai o'n rhywogaethau mwyaf prin."
Dywedodd Helen Smith, Swyddog Cadwraethol ar gyfer y Gymdeithas Arachnolegol Brydeinig:
"Mae'r adolygiad newydd a phwysig hwn yn dangos fod bron i un rhan o bump o rywogaethau pryfed cop amrywiol a gwych Prydain mewn perygl cadwraethol, gan gynnwys 102 rhywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu."