Rhybudd cyffuriau ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
cyffuriauFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi rhybuddio am effaith y tabledi ecstasi yma

Mae'r heddlu wedi rhybuddio am effaith posib cyffuriau anghyfreithlon yn dilyn marwolaeth bachgen 16 oed.

Bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd ar iddo gael ei daro'n wael mewn digwyddiad yng Ngwytherin ger Llanrwst nos Sadwrn.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i adroddiadau mai cyffuriau anghyfreithlon oedd y gyfrifol am farwolaeth y bachgen.

Yn gynharach fe rybuddiodd Heddlu'r Gogledd bod angen cyngor meddygol ar rai pobl ar ôl sawl "argyfwng meddygol" mewn digwyddiad yng Ngwytherin yn nyffryn Conwy.

Rhybudd brys

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Gareth Evans: "Rydym yn credu ei fod wedi cymryd tabled ecstasi pinc gyda'r symbol Rolls Royce RR arno a 200mg ar yr ochr arall."

Mae'r heddlu wedi rhybuddio y dylai unrhywun sydd wedi cymryd y tabledi yma, ac sydd yn teimlo yn sal, fynd i'r ysbyty ar frys.

Yn ogystal mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw weithgareddau anghyfreithlon yn y digwyddiad.

Roedd nifer o bobl ifanc wedi ymgynull yno ar gyfer digwyddiad blynyddol i ddathlu Calan Gaeaf.