Canfod tybaco ac alcohol anghyfreithlon yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu a swyddogion treth wedi meddiannu bron i hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon yn dilyn cyrch mewn sawl lleoliad yng ngogledd Cymru.
Yn ogystal â 440,000 o sigaréts, cafodd 169kg o dybaco a 2,700 litr o alcohol eu cymryd.
Digwyddodd y cyrchoedd rhwng 24 a 26 Hydref mewn 59 lleoliad gan gynnwys siopau ac unedau storio yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Cafodd y tybaco ac alcohol ei gymryd o 11 lleoliad gan swyddogion.
Yn ôl Cyllid a Thollau EM roedd gwerth y tollau sydd heb eu talu yn uwch na £200,000.
Yn ogystal â'r tybaco ac alcohol, daeth swyddogion o hyd i amffetamin, cocên, canabis, bisgedi canabis, cleddyf Samurai, a cherbyd a ddefnyddiwyd i gludo'r nwyddau anghyfreithlon.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.