Lyncs sydd ar goll yng Ngheredigion 'wedi cael ei gweld'
- Cyhoeddwyd
Mae'r chwilio yn parhau am lyncs yn ardal Aberystwyth, wrth i berchennog y sŵ o ble wnaeth hi ddianc ddweud ei bod wedi ei gweld.
Dros y penwythnos cafodd yr heddlu wybod fod yr anifail wedi dianc o ganolfan anifeiliaid yn Y Borth.
Doedd yr anifail, o'r enw Lilleth, heb gael ei weld ers pum niwrnod cyn i'r awdurdodau gael gwybod.
Mae rheolwyr y parc wedi dweud nad yw'r lyncs yn debygol o fod yn fygythiad, ond na ddylai pobl fynd yn agos ati.
Dim lwc
Dywedodd Dean Tweedy, un o berchnogion Borth Animal Kingdom fod yr anifail wedi ei weld ar fryn y tu ôl i'r sŵ am tua 21:00 nos Lun.
Cafodd y lyncs ei chlywed yn hwyrach y noson honno, ond ni lwyddodd y perchnogion i ddal y gath er bod nifer o drapiau wedi'u gosod.
Yn gynharach fe rybuddiodd Heddlu Dyfed-Powys y gallai'r lyncs geisio "cymryd da byw neu anifeiliaid anwes fel bwyd".
"Rydyn ni yn cynghori pobl i beidio â mynd yn agos at yr anifail fodd bynnag achos fe all fynd yn ymosodol os yw'n cael ei gornelu," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017