Galw am ymchwiliad annibynnol i chwaraeon Paralympaidd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi galw am ymchwiliad annibynnol i chwaraeon Paralympaidd.
Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor seneddol, dywedodd fod y ffordd mae athletwyr yn cael eu categoreiddio yn cael ei gamddefnyddio ar adegau.
Dywedodd hefyd bod angen gwella'r ffordd mae cwynion am y drefn yn cael eu rheoli.
Bu'n siarad â phwyllgor diwylliant a chwaraeon San Steffan ar ôl iddi gynnal ymchwiliad i les athletwyr Paralympaidd.
'Diwylliant o ofn'
Dywedodd y Farwnes Grey-Thompson bod rhai athletwyr wedi rhoi tystiolaeth ddienw iddi a bod hyn wedi ei rhoi o "dan bwysau enfawr".
Roedd pryderon penodol bod rhai athletwyr yn twyllo'r drefn categoreiddio, a bod dim trefniadau effeithiol mewn grym i gyflwyno cwynion.
Awgrymodd bod hyn oherwydd "diwylliant o ofn".
Clywodd y pwyllgor bod yna enghreifftiau o bobl yn ceisio twyllo'r drefn drwy "esgus eu bod yn gwneud llai na'r hyn maen nhw'n medru."
Dywedodd y Farwnes Grey-Thompson bod chwaraeon Paralympaidd wedi cymryd camau mawr ymlaen yn enwedig ers gemau Llundain 2012, ond bod "angen i ni sortio hyn allan."
"Mae gwerthoedd Paralympaidd yn werthfawr ac mae angen eu hamddiffyn," meddai.
Pryderon 'ers 2013'
Yn hwyrach dywedodd Michael Breen, tad yr athletwraig Olivia Breen, ei fod yn anfodlon iawn ag agwedd gweinyddwyr y campau Paralympaidd.
Dywedodd ei fod wedi bod yn ceisio codi pryderon ers 2013.
Fe ddaeth y mater i'w sylw, meddai, ar ôl i athletwr ag anghenion dysgu gael ei gategoreiddio fel athletwr â pharlys yr ymennydd.
Dywedodd ei fod wedi ceisio cwyno am y mater, ond fe ddywedwyd wrtho nad oedd proses gwynion yn bodoli ar gyfer unrhyw un sydd ddim yn gyflogedig gan y Cyngor Paralympaidd Rhyngwladol.
Mae ymchwiliad y pwyllgor seneddol yn parhau.