Annog trafodaeth am roi organau

  • Cyhoeddwyd
rhoi organau

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i annog pobl i siarad gyda'u teuluoedd am roi organau.

Ar 1 Rhagfyr 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system o ganiatâd tybiedig o roi organau - sef bod organau person yn cael eu rhoi oni bai eu bod wedi cofrestru i beidio gwneud.

Ond mae teuluoedd y person sydd wedi marw yn dal yn medru gwrthod.

Mae hysbyseb Llywodraeth Cymru'n dangos dewis unigolyn i roi ei organau yn cael ei ddiystyru gan aelodau o'i deulu gan nad oedd y person wedi trafod ei benderfyniad gyda nhw, a heb roi ei enw ar y gofrestr rhoddwyr organau.

Yn 2016-17, mae data'n dangos bod 21 o achosion yng Nghymru lle'r oedd teuluoedd naill ai wedi mynd yn groes i benderfyniad eu perthynas, neu wedi gwrthod cefnogi'r cydsyniad tybiedig.

O ystyried y cafwyd 3.1 o organau ar gyfartaledd gan bob rhoddwr organau, gallai hynny fod wedi golygu cynifer â 65 o drawsblaniadau ychwanegol yn 2016-17.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bwysig iawn ein bod yn estyn allan at bobl Cymru ar y mater hwn," medd Vaughan Gething

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Rydyn ni'n awyddus i annog pawb yng Nghymru i siarad â'u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau.

"Rydyn ni wedi gweld gwelliannau mawr yn ein cyfraddau cydsynio. Ym mis Mawrth 2013, dim ond 50% oedd yn rhoi caniatâd ond ym mis Mawrth 2017, roedd wedi cynyddu i 64%.

"Ond gan fod pobl yn marw wrth aros am drawsblaniad, rhaid inni weithio'n galetach i gynyddu canran y boblogaeth sy'n cydsynio er mwyn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sydd ar y rhestrau aros am drawsblaniad.

"Bydd eich teulu yn rhan o unrhyw drafodaeth am roi organau os byddwch mewn sefyllfa i roi eich organau pan fyddwch yn marw. Gallai hyn achosi mwy o boen meddwl mewn cyfnod anodd i deuluoedd sydd erioed wedi trafod rhoi organau."