Cyhuddo cyn-bennaeth cwmni ceir o Fangor o dwyll

  • Cyhoeddwyd
gwyn meirion robertsFfynhonnell y llun, Daily Post

Mae cyn-gyfarwyddwr cwmni gwerthu ceir o Fangor wedi cael ei gyhuddo o dwyll.

Mae Gwyn Meirion Roberts, gynt o Menai Vehicle Solutions, yn wynebu 24 cyhuddiad o dwyll drwy gamarwain ac un cyhuddiad o fasnachu twyllodrus.

Daeth y cwmni i ben yn 2015 gyda dyledion o dros £1m.

Mae'r holl gyhuddiadau yn erbyn Mr Roberts yn deillio o'r flwyddyn honno.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Menai Vehicle Solutions wedi'i leoli ym Mharc Menai ar gyrion Bangor

Yn gynharach eleni, fe gafodd Mr Roberts ei wahardd rhag rheoli busnes am 10 mlynedd gan y Gwasanaeth Methdalu.

Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ar 22 Tachwedd.