Ethol Jane Dodds i arwain Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jane Dodds
Disgrifiad o’r llun,

Jane Dodds (dde) gyda Kirsty Williams AC, cyn arweinydd y blaid.

Jane Dodds yw arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Mae'n olynu Mark Williams sydd wedi ymddiswyddo ar ôl iddo golli ei sedd yn Etholiad Cyffredinol eleni.

Mae Ms Dodds yn hanu o'r Trallwng, a hi oedd ymgeisydd aflwyddiannus y blaid ym Maldwyn yn ystod etholiad 2017.

Fe'i hetholwyd yn dilyn ymgyrch yn erbyn Elizabeth Evans, cynghorydd sir Aberaeron.

Cafodd Dodds 53.1% o'r bleidlais, gydag Elizabeth Evans yn cipio 46.9%.

Pleidleisiodd 35.2% o aelodau'r blaid yn yr etholiad.

Dywedodd Jane Dodds: "Bydd fy egni yn cael ei roi i ailadeiladu'r blaid ac ailsefydlu'r blaid fel grym radical a blaengar."