Llafur Cymru: Cadw'r drefn bresennol o ethol

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n falch ein bod yn cael cadw y drefn sydd wedi gweithio mor dda i Gymru', meddai Carwyn Jones

Mae Pwyllgor Gweithredol Llafur Cymru wedi cytuno i gadw y drefn bresennol o ddewis arweinydd a dirprwy arweinydd i'r blaid a pheidio dewis y dull a ddefnyddiwyd i ethol Jeremy Corbyn.

Wedi cyfnod ymgynghori o dri mis gydag undebau llafur, sefydliadau cysylltiedig â'r blaid a chynrychiolwyr y Blaid Lafur yn yr etholaethau mae'r Pwyllgor Gweithredol wedi penderfynu:

  • Cadw y drefn bresennol sydd wedi bod mewn grym ers 1999 sef system y coleg etholiadol. Mae tair adran i'r coleg sef aelodau etholedig (Aelodau Cynulliad, Seneddol a Senedd Ewrop), undebau llafur ac aelodau cyffredin.

  • Bod ACau, ASau ac Arweinwyr Cynghorau yn gymwys i sefyll am y swydd o Ddirprwy Arweinydd y Blaid.

  • Bod yn rhaid i unrhyw aelod sy'n sefyll am y dirprwy arweinyddiaeth gael enwebiad gan 20 y cant o ACau, ASau ac aelodau o senedd Ewrop. Rhaid hefyd sicrhau tri enwebiad yr un gan y blaid seneddol yng Nghymru a'r grŵp llafur yn y cynulliad. Byddai hynny, meddid, yn sicrhau y gefnogaeth angenrheidiol i weithio gyda'r ddau grŵp.

  • Bod yn rhaid i unrhyw ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y blaid fod yn Aelod Cynulliad a fydd wedi sicrhau enwebiad gan 20 y cant o ACau Llafur - fe fyddai hynny yn chwech enwebiad gan y Grŵp Llafur presennol yn y Cynulliad.

Disgrifiad o’r llun,

Mick Antoniw yw Cwnsler Cyffredinol Cymru

Ganol yr wythnos dywedodd Mick Antoniw - Cwnsler Cyffredinol Cymru - y byddai unrhyw newid yn y dull o ethol yn gwanhau'r blaid.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Rwyf wedi fy mhlesio gyda penderfyniad y Pwyllgor Gweithredol Cymreig - o fwyafrif clir maent wedi penderfynu i gadw'r drefn sydd wedi gweithio mor dda i Lafur Cymru ers datganoli.

"Mae Llafur Cymru ar ei gorau pan mae'n harneisio cefnogaeth, syniadau a brwdfrydedd pawb sy'n rhannu ein syniadau a'n delfrydau. Mae'r coleg etholiadol wedi ein helpu i sicrhau hynny.

"Mae hi ond yn iawn fod y bobl hynny sy'n sicrhau llwyddiant Llafur Cymru yn cael dweud eu dweud am arweinyddion a dirprwy arweinyddion y dyfodol. Mae hi hefyd yn iawn mai ni yn Llafur Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau yma yng Nghymru - y rhai sy'n gweithio orau i Gymru."

Dywedodd Mike Hedges sydd o blaid Corbyn ei fod e wedi cael ei "synnu a'i siomi".