Ymgynghori ar gynllun gwastraff niwclear Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghoriad wedi dechrau i sut y bydd gwastraff niwclear o orsaf bŵer newydd ar Ynys Môn yn cael ei drin a'i waredu.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn am farn pobl leol ar gais Horizon am drwydded amgylcheddol i orsaf Wylfa Newydd, fydd werth £10bn.
Mae'r cais yn manylu ar sut y bydd y cwmni yn rheoli, dadlwytho, symud ac yna cael gwared â'r deunydd ymbelydrol.
Bydd CNC ond yn caniatáu'r cais os yw'r corff yn "gwbl fodlon" gyda'r trefniadau.
Storio am 140 mlynedd
Y cais am drwydded sylweddau ymbelydrol yw'r cyntaf mewn cyfres o drwyddedau y bydd angen i Horizon eu sicrhau er mwyn gweithredu Wylfa Newydd, ar y safle yn Nhregele ger Bae Cemaes.
Bydd rhaid dangos sut y byddan nhw'n lleihau faint o wastraff ymbelydrol fydd yn cael ei greu.
Mae Horizon eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu cadw'r gwastraff a'r tanwydd sydd wedi ei ddefnyddio mewn storfeydd pwrpasol ar y safle am hyd at 140 o flynyddoedd.
Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 14 Ionawr, ac mae tair sesiwn i'r cyhoedd wedi eu trefnu:
Dydd Llun 20 Tachwedd, 14:00-19:00 yn Neuadd David Hughes, Cemaes;
Dydd Mawrth 21 Tachwedd, 14:00-19:00 yn Storiel, Bangor;
Dydd Mercher 22 Tachwedd, 11:00-16:00 yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni.
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol CNC yng ngogledd a chanolbarth Cymru, Tim Jones, y byddai'r corff yn cwblhau "asesiad trylwyr o gynlluniau Horizon i weld os ydyn nhw'n cynnwys mesurau diogelwch digonol i ddiogelu pobl a'r amgylchedd".
Ychwanegodd: "Byddwn yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol sy'n cael ei amlygu yn ystod yr ymgynghoriad a buaswn yn gwerthfawrogi cael clywed barn pobl."
Trafferthion
Dywedodd y byddai ond yn caniatáu trwydded os oedd yn sicr y byddai'r orsaf yn gweithredu'n ddiogel heb effeithio'r amgylchedd a chymunedau lleol.
Daeth y gwaith o gynhyrchu trydan i ben yn hen orsaf Wylfa ar ddiwedd 2015, a hynny wedi hanner canrif.
Byddai'r orsaf newydd yn weithredol am 60 o flynyddoedd.
Ond mae rhai ymgyrchwyr wedi mynegi eu gwrthwynebiad i'r orsaf niwclear, a'r gwastraff fydd yn cael ei greu.
Bydd yn rhaid i'r datblygwyr hefyd ddatrys trafferthion ynglŷn â chynllunio, a phris y trydan fydd yn cael ei greu, cyn iddyn nhw gael caniatâd llawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2017
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2017