Cynnal gŵyl ffilm ieuenctid mwya'r byd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
![Rhys Ifans](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0E01/production/_98658530_9e41105e-adf4-47c0-b8eb-e9921f039567.jpg)
Dywedodd Rhys Ifans bod yr ŵyl yn "agor byd o bosibiliadau i bawb"
Bydd gŵyl ffilm ieuenctid mwyaf y byd yn cael ei chynnal ledled Cymru am dros bythefnos o ddydd Mercher ymlaen.
Yr elusen addysg, Into Film Cymru sy'n cynnal yr ŵyl, fydd yn digwydd mewn gwahanol leoliadau rhwng 8 ac 24 Tachwedd.
Bydd Gŵyl Into Film yn cynnig dros 200 o ddangosiadau a digwyddiadau am ddim i blant rhwng pump a 19 mlwydd oed ledled Cymru.
Gobaith yr elusen yw tynnu sylw athrawon at werth ffilm mewn addysg i bobl ifanc, fel ffordd o "godi cyrhaeddiad addysgol a hybu rhagolygon gyrfa".
Bydd yr ŵyl yn agor yn Sinema Pafiliwn Pier Penarth nos Fercher gyda dangosiad arbennig o ffilm newydd Blade Runner 2049.
'Cyfrwng arbennig'
Un ffigwr blaenllaw sydd wedi bod yn gefnogol o waith Into Film Cymru yw'r actor Rhys Ifans.
"Mae ffilm yn gyfrwng arbennig, mae'n mynd a myfyrwyr ar antur arbrofol a chyffrous, beth bynnag eu cefndir neu gallu," meddai.
"Yr hyn sy'n wych am Into Film Cymru - a'r ŵyl ffilm sy'n rhad ac am ddim - yw'r ffordd y maent yn agor byd o bosibiliadau i bawb, waeth faint o arian sydd ganddynt yn eu pocedi."
![Into Film](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/DA4D/production/_98658855_ab2958be-813c-4a4d-9e96-2fab4069adc3.jpg)
Gobaith yr elusen yw tynnu sylw athrawon at werth ffilm mewn addysg i bobl ifanc
Ychwanegodd Non Stevens, pennaeth Into Film Cymru: "Rydym yn gweld ffilm fel offeryn pwerus i gefnogi nid yn unig ein system addysg yng Nghymru ond yr economi.
"Ffilm yw'r diwydiant sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac yn cynhyrchu bron i £1bn y flwyddyn.
"Mae'n bwysig bod pob un plentyn yn cael pob chwarae teg i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael i wylio, gwneud a deall ffilm.
"Gyda mwy a mwy o blant yng Nghymru yn byw dan y llinell dlodi, mae Into Film yn benderfynol o sicrhau bod ffilm ar gael i bawb."
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal gan Into Film ledled y DU fel rhan o fenter barhaus i osod ffilm "wrth wraidd dysgu a datblygiad personol pobl ifanc".
Mae'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau'r ŵyl ar gael ar wefan Into Film, dolen allanol.