Gyrrwr yn pledio'n euog i achosi marwolaeth nyrs

  • Cyhoeddwyd
ACHOS GYRRWR PERYGLUSFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Susan owen wedi i wrthrych daro ei char

Mae dyn 31 oed o Ynys Môn wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, wedi i nyrs gael ei lladd ar ol i wrthrych daro ei char ym mis Medi 2016.

Roedd Barry Slaymaker o Walchmai yn gyrru ei fan VW Transporter pan ddaeth gwrthrych yn rhydd o'i gerbyd a tharo car Susan Owen, 50 oed, oedd yn nyrs yn Ysbyty Gwynedd.

Roedd Mrs Owen yn gyrru ei char BMW yn Nant y Garth ger Y Felinheli ym mis Medi 2016 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher, dywedodd y barnwr Huw Rees fod Slaymaker yn wynebu cyfnod o garchar, ond cafodd fechnïaeth tan 29 Tachwedd tra bod adroddiad gwasanaeth prawf yn cael ei baratoi.

Roedd Mrs Owen yn byw ym Mhentreberw ger Y Gaerwen ac yn fam i ddau o blant, ac roedd aelodau o'i theulu'n bresennol yn y gwrandawiad.

Dywedodd y barnwr wrth yr erlynydd, Anna Pope, nad oedd yr achos yn ymwneud â gyrru'r cerbyd, ond yn hytrach gyda'r modd yr oedd y cerbyd wedi ei lwytho.

Wrth fynegi ei gydymdeimlad â theulu Mrs Owen, dywedodd fod yr achos yn un cymharol anghyffredin.