Byw a gweithio â chanser

  • Cyhoeddwyd
siwan

Yn ei swydd fel nyrs mae Siwan Owen wedi arfer edrych ar ôl cleifion sy'n byw gyda chanser.

Ond cafodd Siwan ei hysbrydoli i fod yn Nyrs Haematoleg Clinigol diolch i'r nyrs â'i helpodd hi pan gafodd hi ddiagnosis o lewcemia yn 11 oed.

Mae hi wedi ei henwebu ar gyfer Gwobr y Gymraeg yng ngwobrau staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn 'sgwennu ar flog ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dywedodd Siwan, dolen allanol:

"Rwy'n gwybod o fy mhrofiad fy hun bod clywed am eich diagnosis a'r hyn sy'n digwydd i chi yn eich iaith gyntaf, Cymraeg yn fy achos i, yn bwysig iawn. Mae'n arbennig o bwysig wrth i chi glywed bod gennych ganser.

"Mae cyfieithu gwybodaeth feddygol a manylion o ran meddyginiaeth a thriniaeth i'r Gymraeg yn bwysig iawn i glaf Cymraeg iaith gyntaf, yn enwedig ar amser ble maent fwyaf bregus.

"Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael fy enwebu ar gyfer gwobr Staff y Gymraeg, er mai dyma'r rwyf yn ei wneud pob dydd.

"Rwyf wedi bod drwy'r profiad o ganser ac yn gwybod sut beth ydyw, felly mae gallu deall eich diagnosis a chael cyngor yn eich iaith gyntaf yn hanfodol. Nid wyf yn meddwl fy mod yn gwneud unrhyw beth arbennig a bod yn onest."

siwan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siwan yn gweithio yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan

Mae Siwan yn ymhelaethu am ei salwch hi yn y gorffennol: "Cefais fy magu yn Nhrelogan, Sir y Fflint. 11 oed oeddwn i pan es yn sâl ac mi gymerodd bythefnos cyn i mi gael diagnosis. Cefais driniaeth yn Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.

"Roedd yn rhaid i mi gael dwy flynedd a hanner o gemotherapi, a gan mai Cymraeg oedd, ac yw, fy iaith gyntaf, roedd cael rhywun yno a oedd yn gallu dweud beth oedd yn mynd ymlaen yn Gymraeg fel fy mod yn gallu deall yn bwysig iawn i mi.

"Cefais amser caled wrth gael y driniaeth canser, collais fy ngwallt i gyd ac roedd rhaid i mi ddefnyddio cadair olwyn. Roeddwn hefyd yn absennol o'r ysgol yn aml ond fe wnes y gwaith yn raddol.

"Arweiniodd y driniaeth canser at gyflwr o'r enw necrosis yr esgyrn ac yn 25 oed roedd yn rhaid i mi gael clun newydd ar un ochr ac yna'r ochr arall flwyddyn yn ddiweddarach. Rwyf hefyd angen ysgwydd newydd ond rwyf yn ceisio dal ar hynny cyn hired â phosibl."

Bydd Siwan ymysg y rhai sy'n rownd derfynol seremoni'r gwobrau yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Gwener, 10 Tachwedd.

line