Dwy ysgol ar Ynys Môn i'w hagor yn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Cybi ac Ysgol Rhyd y LlanFfynhonnell y llun, Cyngor Môn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgol gynradd Cybi, Caergybi ac Ysgol gynradd Rhyd y Llan yn cael eu hagoryn swyddogol ddydd Iau

Bydd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams, yn agor dwy ysgol gynradd newydd ar Ynys Môn yn swyddogol ddydd Iau.

Mae Ysgol Cybi, yng Nghaergybi, ac Ysgol Rhyd y Llan, yn Llanfaethlu, wedi croesawu disgyblion ar ddechrau'r flwyddyn addysgol.

Mae Ysgol Cybi wedi'i hadeiladu ar safle'r hen Ysgol Cybi gyferbyn ag Ysgol Uwchradd Caergybi. Mae'r ysgol yn dod yn lle tair ysgol yn y dref - Ysgol Llain-goch, Ysgol y Parc ac Ysgol Y Parchedig Thomas Elis.

"Mae'r plant wedi setlo'n dda i'w hamgylchedd newydd. Mae gennym adeilad newydd hyfryd sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, a bwriadwn ddarparu addysg o'r ansawdd gorau o fewn ethos Cristnogol gofalgar."

Mae'r ysgol gymuned newydd yn Llanfaethlu yn darparu lle i hyd at 150 o ddisgyblion, a oedd yn mynd i Ysgol Llanfachraeth, Ysgol Ffrwd Win ac Ysgol Cylch Y Garn yn flaenorol.

Dywedodd y pennaeth newydd, Nia Thomas: "Mae'r disgyblion a'r staff wedi setlo'n dda iawn yn eu cartref newydd."

Darparwyd y cyllid ar gyfer y ddwy ysgol, cyfanswm o £15m, ar y cyd gan y cyngor a Llywodraeth Cymru trwy ei Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Dywedodd Kirsty Williams: "Mae ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn cynrychioli'r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a cholegau ers y 1960au.

"Bydd y ddwy ysgol wych yma'n cynnig cyfleusterau o radd uchaf ar gyfer disgyblion ac athrawon mewn amgylcheddau dysgu fodern 21ain ganrif.

"Mae Ysgol Cybi ac Ysgol Rhyd y Llan yn adnoddau arbennig i'w cymunedau a'r ynys gyfan."