Adroddiad: Traffig ar ffyrdd Cymru ar ei lefel uchaf erioed

  • Cyhoeddwyd
Traffig

Mae'r traffig ar ffyrdd Cymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, yn ôl adroddiad newydd.

Dangosodd y ffigyrau y buodd 29 biliwn o gilometrau o deithio gan gerbydau ar ffyrdd Cymru yn 2016, oedd yn uwch na ffigyrau 2007.

Dywedodd cyfarwyddwr yr sefydliad yr RAC nad oedd y cynnydd yn syndod wrth i'r boblogaeth a'r economi dyfu.

Ond mae elusen Sustrans Cymru wedi mynegi "pryder go iawn" am y tagfeydd a'r goblygiadau i'r amgylchedd.

9,322 y person

Mae'r 29 biliwn o gilometrau o deithio gyfystyr â 9,322 o gilometrau o deithio i bob person, bob blwyddyn.

Mae cilometrau o deithio yn cael eu mesur drwy luosi nifer y cerbydau mewn ardal gyda hyd eu teithiau.

Roedd y ffigwr yn 28 biliwn o gilometrau o deithio yn 2007. Fe wnaeth ostwng am rai blynyddoedd cyn cynyddu eto yn 2016.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth, sy'n casglu'r data ar ran Llywodraeth Cymru, bod mwy o draffig ar brif ffyrdd a ffyrdd gwledig yn 2016.

Daeth yr adroddiad hefyd i'r canlyniad bod mwy o faniau, beiciau, ceir a thacsis ar y ffyrdd, ond llai o fysiau a lorïau.

Roedd y traffig uchaf yng Nghaerdydd, Casnewydd, Sir Gaerfyrddin a Rhondda Cynon Taf, tra bod y lefelau isaf ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.

70% yn gyrru i'r gwaith

Dywedodd cyfarwyddwr yr RAC, Steve Gooding: "Gyda mwy o bobl nag erioed yng Nghymru, ystadegau cyflogaeth cryf a cheir eithaf rhad - i brynu os nad rhedeg - yna nid yw'r ffigyrau yn syndod.

"Mae tua 70% o weithwyr Cymru yn dibynnu ar gar i gyrraedd y swyddfa."

Mae cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Steve Brooks, wedi dweud bod mwy o draffig yn achosi tagfeydd, yn achosi llygredd ac yn gwneud y ffyrdd yn fwy peryglus.

"Mae tagfeydd yn broblem go iawn yn ninasoedd Cymru ac mae llawer o bobl yn gyrru pellteroedd all gael eu cerdded, eu seiclo neu eu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd gwelliannau i'r A55, M4, A40 ac A494, masnachfraint rheilffordd newydd a system metro newydd yn y de yn creu rhwydwaith drafnidiaeth fodern i gymunedau Cymru.