Bwlch cyflog gymaint â 'phedwar mis o waith' mewn rhannau

  • Cyhoeddwyd
Dyn a dynes mewn swyddfaFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'r bwlch mewn cyflogau rhwng merched a dynion mewn rhai ardaloedd gwerth cymaint â phedwar mis o waith, yn ôl ystadegau swyddogol.

Mae'r bwlch ar ei fwyaf ym Mlaenau Gwent.

Yno mae dynion yn ennill £4.53 yr awr yn fwy na merched ar gyfartaledd.

Ond mewn sawl ardal mae merched yn ennill cyflogau uwch ar gyfartaledd na dynion.

Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau mae amrywiaeth mawr ar draws y wlad.

Mae'r bwlch yn llai o lawer mewn ardaloedd lle mae'r sector cyhoeddus yn flaenllaw.

Effaith sector cyhoeddus

Yng Ngwynedd mae cyflogau merched 23% yn uwch na chyflogau dynion ar gyfartaledd.

Mae'r bwlch yng Ngwynedd - sydd gyfystyr â £2.29 yr awr - yn bodoli gan fod 16,000 o weithwyr y sir yn gweithio yn y sector cyhoeddus, o gymharu â 7,000 ym Mlaenau Gwent.

Mae cyflogau merched yn uwch hefyd ym Merthyr Tudful a hynny am resymau tebyg.

Dywedodd cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, Dr Victoria Winkler: "Mae Merthyr Tudful yn gwneud yn well na Blaenau Gwent gan fod llawer o wragedd yno yn cael eu cyflogi mewn swyddi proffesiynol.

Fe allwch chi alw fe'n 'effaith Ysbyty Tywysog Charles.'"

Yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwyr mawr yno, ynghyd â'r llysoedd barn a datblygiadau manwerthu cymharol newydd.

Ar gyfartaledd yn y DU mae dynion yn derbyn cyflogau sydd 9% yn uwch na gwragedd.