Mari Lovgreen: Sut mae'n teimlo 'go iawn' i fod yn fam?
- Cyhoeddwyd
"O'n i'n arfar gwthio limits, rŵan dwi'n pwshio pram..." meddai'r cyflwynydd Mari Lovgreen yn bwdlyd wrth rapio mewn fideo newydd.
Mae ei thafod yn ei boch yn y fideo 'Bod yn Fam', dolen allanol sy'n portreadu ei bywyd newydd llai cynhyrfus hi a'i ffrind Ffion Griffiths fel mamau sy'n boddi mewn clytiau, croen banana a chaneuon am gyfri'r bysedd.
Mae'r gân a'r fideo yn cyd-fynd efo cyhoeddi llyfr newydd Mari Lovgreen, Brên Babi, lle mae hi'n trafod sawl agwedd ar ddod yn fam gan gynnwys ei phrofiad ei hun o gael y baby pinks ar ôl geni ei phlentyn cyntaf.
Llwyddodd Cymru Fyw i fachu sgwrs efo hi (ar ôl i'r plant fynd i'w gwlâu)...
Mari, be' yn union mae 'brên babi' yn ei olygu?
Jahdhdkjwnekwojdbwksnebjwidbwn ;)
O diar, ydy pethau mor ddrwg ag mae'n swnio yn y gân rap a'r fideo?
Nadi siŵr! 'Chydig o hwyl ydy'r rap i drïo troi'r pethau stressful am fod yn fam yn jôc.
Mae hiwmor mor bwysig mewn bywyd dwi'n meddwl!
Yn aml iawn mi wnâi ffonio ffrind i gael rant bach am rywbeth oedd wedi ngwylltio i neu ngyrru i i grïo oriau ynghynt. Ond fel arfer 'dan ni'n chwerthin erbyn diwedd y sgwrs.
Pam est ti ati i gyhoeddi llyfr, a llyfr am be ydy o?
Mae'r llyfr yn canolbwyntio ar y profiad o ddod yn fam am y tro cynta' - y newid byd hollol boncyrs hwnnw.
Es i ati i holi fy ffrindiau am eu profiadau a'u teimladau hollol onest nhw - o'r trïo am fabi, i'r beichiogrwydd, y geni, dyddiau cynnar, eich corff a'ch perthynas ac yn y blaen.
Ro'n i'n teimlo'n bod ni byth yn cael cyfle i rannu sut 'dan ni'n teimlo go iawn ar ôl cael babi.
'Dan ni gyd yn rhannu lluniau hapus a doniol ar y gwefannau cymdeithasol, sy'n gallu gwneud i rywun deimlo reit ar goll os ydyn nhw'n cael diwrnod gwael neu'n ffeindio pethau'n anodd.
Mae o yn ein natur ni i ateb y cwestiwn "sut wt ti?" efo, "iawn diolch!", achos dydan ni ddim isio gneud ffys!
Ar ôl siarad efo fy ffrindiau a rhoi cyfle iddyn nhw rannu eu straeon unigol, doedd na'm stop arnyn nhw! Roedd yr holl broses yn therapi i ni gyd mewn ffordd.
Ti di sôn am dy brofiad personol o'r 'baby pinks'. Fedri di egluro beth ydy o?
Pan ges i Betsan yn 2014 es i'n reit manic. Diffyg cwsg a cholli gwaed oedd yn gyfrifol yn fwy na dim. Dwi 'rioed 'di profi dim byd tebyg cyn nac ers hynny!
Mae o'n cael ei ddisgrifio fel y gwrthwyneb i Baby Blues neu PND (iselder wedi geni).
Roedd gena' i gymaint o egni ac o'n i mor mor brysur ond byth yn blino, er mod i ddim yn cysgu.
Nes i orfod cael meddyginiaeth i fy helpu i gysgu a chael pethau i setlo. Doedd o ddim yn gyfnod hawdd o edrych nôl, ond ddes i drwyddi a dysgu lot am fy hun yn y broses.
Pam wyt ti'n meddwl nad ydy o mor gyfarwydd i'r rhan fwyaf o bobl ag ydy iselder wedi geni?
Mae'n ofnadwy o brin yn ôl yr arbenigwyr. Ar ôl siarad efo'n ffrindiau'n hollol agored am eu profiadau, mae'n hollol amlwg fod iechyd meddwl pob mam newydd yn cael ei effeithio mewn ryw ffordd ar ôl geni.
Un thema gyffredin iawn wrth holi'r mamau oedd faint o control freaks oeddan ni ar y dechrau. Control freaks croendenau isio gwneud bob dim ein hunain ac i safon afrealistig o uchel.
Dwi'n teimlo bod 'na ormod o wybodaeth allan yna heddiw - gormod o stwff yn cael ei rannu o bob cyfeiriad, a ma'n gallu bod reit overwhelming.
Dwi'n trïo pwysleisio yn y llyfr pa mor bwysig ydy rhoi ein hunain gynta' weithia (heb deimlo'n euog) a derbyn help - achos os nad ydach chi'n hapus fyddwch chi ddim lles i neb.
Beth ydy'r peth gorau am fagu plant?
Y cariad a'r balchder 'da chi'n ei deimlo yn ddyddiol dros y pethau lleiaf maen nhw'n ei wneud neu'n ddweud.
Mae Betsan bron yn dair rŵan, a mae hi'n fy ngalluogi i i werthfawrogi pethau o'r newydd wrth i fi drïo gweld y byd drwy ei llygaid hi.
Y peth gwaetha'?
Y ffaith mod i wastad yn teimlo'n switched on mewn ffordd. Do'n i ddim yn berson anxious cyn cael plant, ond dwi'n cael trafferth switcho off yn gyfan gwbl rŵan.
Mae 'na wastad ran ohona fi'n poeni amdanyn nhw. Hynna, y diffyg cwsg a'r meltdowns!
Be wyt ti wedi ei ddysgu am dy hun?
Mod i angen magu amynedd! Ac mai cysgu ydy fy hoff hobi yn y byd. Dwi hefyd wedi magu hyder ers eu cael nhw, i fynd amdani efo unrhyw beth dwi isio. Mae bywyd yn rhy fyr i ddal nôl!
Ydy dy agwedd at waith a dy flaenoriaethau wedi newid?
Dwi'n lot mwy focused ar waith rŵan pan mae'r cyfle'n codi. Dwi'n gwerthfawrogi gwaith gymaint mwy, a'r amser i gael defnyddio fy mrên mewn ffordd wahanol ac atgoffa fy hun o bwy ydw i.
O ran blaenoriaethau, dwi lot mwy parod i dd'eud "na" y dyddiau yma. Os dwi wedi blino neu ddim yn y mŵd, na'i dynnu nôl o bethau cymdeithasol. Fyswn i byth wedi gwneud hynny cyn cael plant.
Dwi isio trïo gwerthfawrogi'r cyfnod sbesial yma pan maen nhw mor fach a ciwt, buan iawn fyddan nhw'n rhy cŵl i fod isio'n nabod i...
Bydd Brên Babi, dolen allanol ar gael erbyn 20 Tachwedd 2017.