Teulu tân angheuol Powys yn diolch am y gefnogaeth

  • Cyhoeddwyd
Y ty

Mae teulu sydd wedi colli chwe aelod mewn tân yn eu cartref ym Mhowys wedi diolch am yr holl gefnogaeth maen nhw wedi ei dderbyn ers y drychineb.

Bu farw David Cuthbertson a phump o'i blant yn y tân yn Llangamarch ar 30 Hydref.

Mae'r heddlu wedi dweud y gallai gymryd wythnosau nes eu bod nhw yn gwybod achos y tân ac yn gallu adnabod y meirw.

Mae'r teulu wedi dweud eu bod yn ddiolchgar am y "cydymdeimlad aruthrol" maen nhw wedi ei gael gan y cyhoedd.

Diolchgar

"Fel teulu, fe fydden ni'n hoffi datgan pa mor ddiolchgar ydym ni am y cydymdeimlad aruthrol, meddyliau caredig, dymuniadau gorau a'r holl gymorth a chefnogaeth sydd wedi ei ddangos tuag atom ni ers y drasiedi.

"Mae'n anodd dweud mewn geiriau faint mae hyn i gyd yn golygu i ni.

"Mae'r gefnogaeth gan ffrindiau, y gymuned leol ac ymhellach i ffwrdd yn syfrdanol ac mi ydyn ni yn ddiolchgar iawn am eich caredigrwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau a theganau eu gadael ger y tŷ wedi'r drychineb

Dywed y datganiad gan y teulu hefyd eu bod yn gwerthfawrogi ymdrechion y gwasanaethau brys.

Mae aelodau eraill o'r teulu yn gofalu am dri o'r plant wnaeth lwyddo i ddianc o'r tân. Mae swyddogion arbenigol hefyd yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw.

Yn ôl yr heddlu fe allai gymryd wythnosau, os nad misoedd, cyn iddyn nhw ddod i gasgliad ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd.