Tân Llangamarch: 'Dyn a phump o blant wedi marw'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Lluniau o'r awyr o'r tŷ gafodd ei ddifetha gan dân ym Mhowys

Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn credu bod chwech o bobl wedi marw mewn tân mewn tŷ ym Mhowys.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mai'r gred yw bod un dyn a phump o blant, rhwng pedair ac 11 oed, wedi eu lladd yn dilyn y digwyddiad yn oriau mân fore Llun.

Maen nhw'n credu fod y chwech yn perthyn.

David Cuthbertson yw un o'r bobl sydd ar goll. Y gred yw ei fod yn ei 60au, a'i fod yn byw yn y tŷ â sawl un o'i blant.

Mae'r heddlu eisoes wedi dweud fod tri phlentyn wedi llwyddo i ddianc o'r adeilad yn Llangamarch, ger Llanwrtyd.

Dywedodd yr AC lleol, Kirsty Williams fod y marwolaethau wedi achosi "sioc drwy'r gymuned".

'Methu adnabod y meirw'

Oherwydd y dinistr i'r adeilad, mae disgwyl i'r ymchwiliad i achos y tân - a'r ymdrechion i ddod o hyd i'r cyrff - bara tan yr wythnos nesaf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua hanner nos ar 30 Hydref, pan oedd y fflamau wedi "datblygu'n sylweddol", meddai'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mae'r tri phlentyn lwyddodd i ddianc - sy'n 13, 12 a 10 oed - yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty. Nid yw eu hanafiadau yn peryglu eu bywydau.

Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Jon Cummins o Heddlu Dyfed-Powys bod swyddogion yn parhau i ymchwilio i "achos trasig o dân mewn tŷ a ddigwyddodd ar Fferm Pointyn, Llangamarch, Powys".

Ychwanegodd bod "arbenigwyr gwyddonol ac ymchwilwyr tân yn parhau i fod ar y safle, sydd yn un cymhleth a pheryglus".

'Anesboniadwy'

Aeth ymlaen i ddweud: "Yn seiliedig ar y wybodaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio ar y ddamcaniaeth fod un oedolyn gwrywaidd a phump o blant, rhwng 11 a phedair oed, heb eu canfod a'r gred yw eu bod wedi marw yn y tŷ.

"Oherwydd y difrod sylweddol ar y safle, dydyn ni methu adnabod y meirw ar hyn o bryd.

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n trin achos y tân fel un anesboniadwy."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Nid yw'r plant lwyddodd i ddianc "mewn cyflwr fyddai'n peryglu eu bywydau" ac maen nhw'n "cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol a theulu".

Ychwanegodd fod y teulu yn diolch i'w ffrindiau a'r gymuned leol am eu cefnogaeth, a'u bod yn dymuno cael llonydd ar hyn o bryd i ddygymod a'u colled.

"Mae hwn yn ddigwyddiad trasig, ac rydyn ni'n cydymdeimlo'n llwyr gyda'r teulu a phawb sydd wedi'u heffeithio."

Yr hyn ddigwyddodd ar 30 Hydref

  • 00:15 - Galw'r gwasanaethau brys i dân mewn tŷ oedd wedi datblygu'n sylweddol, tri o blant wedi llwyddo i ddianc;

  • 03:00 - Galw Tîm Achub Mynydd Aberhonddu i chwilio'r tir o gwmpas y tŷ;

  • 12:00 - Pryder bod nifer wedi marw yn y tân gyda nifer o bobl heb eu lleoli, timau arbenigol yn parhau i asesu'r sefyllfa;

  • 16:00 - Cynghorydd Tim Van-Rees yn dweud bod un o'r plant wedi rhoi gwybod bod tân wedi dechrau;

  • 17:00 - Uwch-Arolygydd Richard Lewis yn dweud bod nifer o farwolaethau ond nad oes modd cadarnhau niferoedd oherwydd y difrod;

  • 20:30 - Un o'r bobl y credir oedd yn y tŷ pan ddigwyddodd y tân yn cael ei enwi'n lleol fel David Cuthbertson.

Dywedodd ffrind i'r teulu fod David Cuthbertson yn ddyn "hynod o ddymunol".

Fe wnaeth Mary Ann Gilchrist ei gyfarfod 26 mlynedd yn ôl pan oedd yn briod gyda'i ail wraig. Cafodd y ddau bump o blant gyda'i gilydd ond fe wnaethon nhw ysgaru.

Dywedodd ei fod yn adeiladwr crefftus iawn oedd yn gweithio'n galed ac wrth ei fodd gyda'i blant.

"Roedd ganddo blant dymunol, galluog a dwi'n siŵr ei fod yn falch iawn ohonyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mary Ann Gilchrist bod David Cuthbertson yn adeiladwr crefftus

Dywedodd Mrs Gilchrist ei bod hi'n teimlo yn "ofnadwy" pan wnaeth hi glywed y newyddion fod chwech o bobl wedi marw yn y tan.

"Chi byth yn disgwyl eich bod chi yn mynd i adnabod y bobl pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd. Chi'n meddwl bod o'n newyddion ffug.

"Yna, pan 'dych chi'n sylweddoli fod hyn yn wir, mae'n ofnadwy. Mae'n hollol erchyll."

'Teimlo hyn i'r byw'

Wrth ymweld â'r pentref ddydd Mawrth, dywedodd AC Brycheiniog a Sir Faesyfed, Kirsty Williams: "Mae'n rhywbeth sy'n cael ei ddweud yn aml ond mae hefyd yn wir i ddweud fod pawb yn 'nabod ei gilydd yn Llangamarch.

"Roedd pobl yn 'nabod ac yn hoff o'r teulu a bydd y gymuned yn teimlo hyn i'r byw.

"Mae'r gymuned yma wir mewn sioc, ac mae'r sioc yna'n troi yn alar a cholled enbyd. Mae hon yn gymuned glos ble mae pawb yn helpu'i gilydd."

Ychwanegodd: "I'r bobl ifanc yn enwedig, bydd angen y gefnogaeth honno arnyn nhw dros y misoedd i ddod. Maen nhw'n galaru cymaint ar hyn o bryd."