Mwy o bobl ddigartref yn nhraean o gynghorau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Digartrefedd

Mae arolwg gan BBC Cymru'n dangos fod mwy o bobl yn cysgu ar y strydoedd yn nhraean o ardaloedd cynghorau Cymru.

Mae'r elusennau digartrefedd - The Wallich, Shelter Cymru a Crisia - un yn dweud eu bod yn cefnogi mwy a mwy o bobl sy'n ddigartref ac yn cysgu ar y stryd.

Mae'r elusennau yn dweud fod y rhan fwyaf o'r bobl maen nhw'n eu cefnogi yn fwy tebygol o gysgu ar y strydoedd oherwydd eu bod yn teimlo'n fwy diogel nag y byddent mewn hostel neu loches.

Dywedodd Jennie Bibbings o Shelter Cymru wrth y raglen Eye on Wales BBC Radio Wales: "O'r hyn rwy'n ei ddeallt gyda'm gwaith, mae hyn achos fod llawer o'n hosteli yn lefydd eithaf brawychus i fod ynddynt."

"Yr hyn yr ydym yn ei glywed yw bod pobl wedi cael cynnig llety mewn hosteli, ond fod yn well ganddynt osod pabelli ger yr adeiladau, yn hytrach nag aros tu mewn."

Profiad gwael

Mae Dale yn 40 oed, ac wedi bod yn byw ar strydoedd Casnewydd dros y naw mis diwethaf.

Mae'n dewis peidio aros mewn hosteli ar ôl profiad gwael yn ddiweddar.

"Dydy'r bobl sydd ynddyn nhw ddim yn bobl dda iawn, mor syml â hynny. Y tro diwethaf i mi aros mewn un, fe dorrodd un person i mewn i fy ystafell a dwyn fy holl bethau, oherwydd does dim unrhyw allweddi ar gyfer y drysau."

Ond mae peryglon o fyw ar y strydoedd hefyd.

Mae Ben, 31 o Benarth, wedi bod yn byw ar y stryd yng Nghaerdydd ers 10 mis.

Fe ddioddefodd ymosodiad yng nghanol y ddinas, tra'n ceisio gorffwyso am y noson.

"Fe wnes i ddeffro, ac roedd rhywun yn ysgarthu drostaf, ac oherwydd ei fod yn feddw ​​a fy mod yn gwrthwynebu'r ffaith ei fod ar fin pasio dŵr arnaf, fe ddechreuodd ymosod arna i.

"Roedd fy wyneb wedi chwyddo am ychydig ddyddiau ac ar ôl hynny, ac roeddwn wedi dychryn ac yn ofn mynd i gysgu am ychydig ddyddiau..."

Mae Llywodraeth Cymru newydd gynnal eu cyfrifiad i'r rhai sy'n ddigartref, ac fe fydd y canlyniadau yn rhoi'r darlun diweddaraf o sefyllfa digartrefedd ledled y wlad.

Bydd y canlyniadau'n cael eu rhyddhau yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae hanner cynghorau Cymru yn dweud eu bod nawr yn bwriadu datblygu prosiectau Tai yn Gyntaf, a fyddai'n rhoi llety parhaol i'r bobl ddigartref sydd fwyaf bregus ac yn agored i niwed, yn hytrach na chyfres o leoliadau dros dro fel hosteli.