Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, LLUN TEULU

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw ar ôl cael ei daro gan "nifer o gerbydau" ar draffordd yr M4 nos Sadwrn.

Roedd Tony Pemberton yn 29 oed ac yn dod o ardal Y Pîl ym Mhenybont-ar-Ogwr.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cyffyrdd 35 ym Mhencoed a 36, Sarn ger Penybont-ar-Ogwr tua 21:00 a bu'r M4 ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod hir.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cyffyrdd 35 ym Mhencoed a 36, Sarn

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Pemberton ei fod yn "dad i ddwy ferch ifanc yr oedd yn eu caru'n fawr.

"Roedd yn jociwr, yn mwynhau bywyd, a doedd yn ddim munud ddiflas yn ei gwmni.

"Bydd ei deulu a'i ffrindiau yn ei golli'n fawr."

Mae'r heddlu yn annog gyrwyr oedd yn yr ardal honno o'r M4 ar adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu ffonio 101 gan ddyfynu'r cyfeirnod: 1298 o 11/11/17.