Cytundeb rhwng y BBC ac S4C ar gyfer y pum mlynedd nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru ac S4C wedi cyhoeddi cytundeb newydd am y pum mlynedd nesaf, fydd yn gweld y BBC yn darparu £75m o arian ffi'r drwydded i'r darlledwr Cymraeg.
Mae'r gorfforaeth hefyd yn ymrwymo i barhau i ddarparu rhaglenni statudol o 10 awr yr wythnos o raglenni i S4C dros yr un cyfnod, ar gost o £19.4m y flwyddyn.
Ar hyn o bryd mae'r rhaglenni'n cynnwys Newyddion 9, Pobol y Cwm, Ffeil, Y Clwb Rygbi a darllediadau o'r Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd S4C hefyd yn parhau i fod ar iPlayer am gyfnod y siarter, sef 11 mlynedd.
Mae S4C wedi dweud eu bod yn "falch fod y BBC wedi gweld yn dda i adnabod ei pherthynas gyda S4C fel un o'i phartneriaethau craidd o dan y Siarter".
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo'r BBC o geisio "traflyncu" S4C, gan ddweud mai "diwedd y daith" fyddai'r "BBC yn rheoli pob dim".
'Diddymu dyblygu'
Yn ogystal mae'r ddau ddarlledwr hefyd wedi cyhoeddi y bydd BBC Cymru, am y tro cyntaf, yn darparu gwasanaethau trosglwyddo, technegol ac archif ar ran S4C o 2019.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Fe fydd y datblygiad yma'n diddymu dyblygu rhwng y darlledwyr ac yn helpu'r ddau gorff i ymgyrraedd â thargedau arbed arian heriol.
"Ar gyfnod pan mae'r cyfryngau yn symud ar garlam, bydd hefyd yn cynorthwyo S4C i fanteisio ar dechnoleg ac unrhyw ddatblygiadau gan y BBC ym maes ymchwil a datblygu."
Mae disgwyl i gartref newydd BBC Cymru yn Sgwâr Ganolog Caerdydd fod yn barod erbyn 2019.
Dywedodd Sir David Clementi, Cadeirydd y BBC: "Mae'r cytundeb newydd hwn yn cryfhau'r bartneriaeth gwasanaeth darlledu cyhoeddus hirdymor sy'n bodoli eisoes rhwng y BBC ac S4C.
"Mae'n cydnabod rôl hanfodol y ddau sefydliad o ran darlledu Cymraeg - ac mae'n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio parhaus ar adeg pan fo newidiadau sylweddol ar droed yn y cyfryngau.
"Rydw i'n hyderus y bydd parhau i weithio'n agos gydag S4C yn arwain at ganlyniadau creadigol, gan ddatblygu llawer o'r llwyddiannau a gyflawnwyd ar y cyd yn y blynyddoedd diwethaf."
Bellach mae'r rhan fwyaf o gyllid S4C yn dod gan y BBC. Fe wnaeth Llywodraeth y DU dro pedol yn Chwefror 2016 ynglŷn â thorri eu cyfraniad nhw o £6.7m.
Partneriaethau 'creadigol'
Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r ddau ddarlledwr wedi cynyddu'r nifer o brosiectau creadigol sy'n cael eu cynhyrchu ar y cyd, gan gynnwys cyfresi Un Bore Mercher, Y Gwyll a Craith/Hidden, sy'n ffilmio ar hyn o bryd.
"Mae'r cytundeb newydd yma'n dangos yn glir beth fydd natur y berthynas rhwng S4C a'r BBC dros gyfnod y Siarter newydd," meddai Cadeirydd S4C, Huw Jones.
"Mae'n rhoi elfen gref o sicrwydd a sefydlogrwydd i S4C dros y cyfnod hwn, wrth ganiatáu cyfle i adolygu'r elfennau craidd ar ôl pum mlynedd, ac mae'n gosod her i'r ddau sefydliad adnabod cyfleoedd i gydweithio'n adeiladol er budd y gwylwyr."
'Traflyncu'
Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn honni bod y BBC yn "ceisio traflyncu S4C".
"O dan y cynlluniau yn y cytundeb hwn, mae dros hanner staff S4C yn mynd i fod yn gweithio o swyddfa'r BBC yng Nghaerdydd, bydd y BBC yn darlledu signal teledu S4C, mae rhaglenni S4C ar yr I-player, ac mae'r gorfforaeth wedi dwyn allbwn drama S4C," meddai'r cadeirydd, Heledd Gwyndaf.
"Ble mae diwedd y daith? Gyda'r BBC yn rheoli pob dim os nad oes rhywbeth radical yn digwydd.
"Mae S4C i fod i symud i Gaerfyrddin, dylid gwneud hynny'n gyfan gwbl.
"Dylid canslo'r cytundeb 'partneriaeth' bondigrybwyll hwn a'r cyd-leoli yng Nghaerdydd yn syth, dyna un ffordd o geisio atal y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig rhag cael rheolaeth lwyr dros ein hunig sianel deledu Gymraeg."