Ystyried agor mynwent ar dir ysgol ym Machynlleth
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Powys yn ystyried agor mynwent newydd ym Machynlleth ar dir yr ysgol gynradd y dre'.
Mae'r safle, ac un arall o sy'n eiddo i Gyngor Tref Machynlleth yng nghefn y Plas, wedi cael eu clustnodi fel safleoedd posib ar gyfer mynwent newydd.
Dim ond capiasiti ar gyfer dwy flynedd arall sydd gan yr unig fynwent yn dref.
Mae trigolion sy'n byw yn y dre' ac ardaloedd cyfagos yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud am yr angen am fynwent newydd ac mae maer y dref, Tony Jones wedi dweud ei fod yn "gefnogol i ymdrechion y cyngor."
'Bron yn llawn'
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Wilkinson, aelod y cabinet sy'n gyfrifol am fynwentydd bod yr un presennol "bron yn llawn gyda dim ond lleoedd claddu ar ôl am ddwy flynedd arall yn unig."
"Rydym eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil cychwynnol ac wedi dod o hyd i ddau safle posibl yn y dref - tir ry'n ni'n berchen arno yn yr ysgol gynradd a thir yng nghefn y Plas sy'n eiddo i Gyngor Tref Machynlleth.
"Cyn i ni symud ymlaen ymhellach, ry'n ni am gael barn trigolion sy'n byw ym Machynlleth ac o'i gwmpas," meddai.
"Bydd y sylwadau y byddwn yn eu casglu yn llywio ein ffordd o ddelio â hyn ond mae nifer o gamau i'w cymryd felly nid oes unrhyw beth yn sicr ar hyn o bryd."
Ychwanegodd Mr Jones: "Mae Cyngor Tref Machynlleth yn gefnogol o ymdrechion y cyngor sir i fynd i'r afael â'r broblem o'r lleoedd cyfyngedig ym mynwent y dref.
"Byddwn yn annog trigolion sy'n byw ym Machynlleth ac o'i gwmpas i roi eu barn i Gyngor Sir Powys ar y mater pwysig hwn."