Chris Gunter yn gapten ar Gymru yn erbyn Panama

  • Cyhoeddwyd
Chris GunterFfynhonnell y llun, BBC Sport

Mae Chris Gunter wedi dweud y bydd yn "fraint enfawr" cael arwain tîm Cymru fel capten wrth iddyn nhw herio Panama.

Bydd yr amddiffynnwr yn ennill ei 85fed cap nos Fawrth, gan ddod ag o'n hafal â record Gary Speed ar gyfer y mwyaf o gapiau dros Gymru i chwaraewr oedd ddim yn golwr.

Y capten arferol, Ashley Williams fydd un o'r rheiny fydd yn cael ei orffwys wrth i'r rheolwr Chris Coleman arbrofi gyda thîm ieuengach.

Yn y cyfamser mae'r chwaraewr canol cae Andrew Crofts wedi ei alw i'r garfan yn lle Aaron Ramsey ar ôl y gêm yn erbyn Ffrainc.

Mae Gunter bellach wedi chwarae 64 gwaith yn olynol i Gymru, a dim ond pedair gêm y mae wedi methu yn y 10 mlynedd ddiwethaf.

"Mae'n golygu popeth i fod yn gapten ar eich gwlad," meddai amddiffynnwr Reading.

"Mae'n fraint fawr bod yn hafal â rhywun o statws Gary o fewn pêl-droed Cymru."

Coleman

Fe wnaeth Gunter hefyd son am y rheolwr Chris Coleman, gan ei ddisgrifo fel "y rheolwr gorau yn hanes pêl-droed Cymru".

Wrth i Coleman ei hun gadarnhau ei fod am gwblhau trafodaethau unrhyw gytundeb newydd posib gyda Chymru, fe ddywedodd Gunter nad oedd yr un person am ei weld yn gadael.

Y gêm yn erbyn Panama nos Fawrth fydd y 49ed o Coleman wrth y llyw, ac o bosib yr olaf os na fydd yn medru cytuno telerau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.