Cofio Dic gan Idris Reynolds yn cipio Llyfr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Idris Reynolds sydd wedi ennill prif wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn eleni, a hynny am ei gasgliad o atgofion am y prifardd a'r cyn-archdderwydd, Dic Jones.
Fe wnaeth Cofio Dic, gafodd ei gyhoeddi gan Wasg Gomer, hefyd gipio'r wobr yn y categori Ffeithiol Greadigol.
Roedd Aneirin Karadog, Caryl Lewis a Guto Dafydd ymysg yr enillwyr eraill yn y seremoni yn The Tramshed, Caerdydd nos Lun.
Yn y categorïau Saesneg fe wnaeth Alys Conran gipio tair gwobr, gan gynnwys y prif un, am ei nofel Pigeon.
£4,000 i'r prif enillydd
Mae enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000 a thlws arbennig wedi'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones, ac mae gwobr ychwanegol o £3,000 yn cael ei gyflwyno i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith.
Aneirin Karadog oedd yn fuddugol yn y categori Barddoniaeth, a hynny am ei gyfrol, Bylchau, gafodd ei chyhoeddi gan Barddas.
Yn fuddugol yn y categori Ffuglen roedd Caryl Lewis am ei nofel, Y Gwreiddyn (Gwasg Y Lolfa) - fe enillodd hi'r brif wobr llynedd am Y Bwthyn.
Guto Dafydd gipiodd wobr Barn y Bobl Golwg360 eleni, a hynny am ei nofel, Ymbelydredd.
Y panel beirniadu Cymraeg oedd y beirniad llenyddol Catrin Beard, y bardd a'r awdur Mari George, ac Eirian James, perchennog siop lyfrau yng Nghaernarfon.
Yn y Saesneg fe wnaeth Alys Conran gipio'r brif wobr yn ogystal â Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies, a Gwobr People's Choice yr Wales Arts Review.
John Freeman oedd yn fuddugol yn y categori Barddoniaeth gyda'i gyfrol, What Possessed Me, a Peter Lord enillodd y categori Ffeithiol Greadigol am The Tradition.
Yr awdur Tyler Keevil, yr academydd Dimitra Fimi a'r bardd Jonathan Edwards oedd yn gyfrifol am feirniadu'r llyfrau Saesneg.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y calendr llenyddol yng Nghymru, ac yn gyfle gwych i ddathlu'n hawduron gorau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
"Llongyfarchiadau gwresog i'r holl enillwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2017