Cwrdd â'r wraig tu ôl i'r 'hit' annisgwyl, Watshia Di Dy Hun

  • Cyhoeddwyd

Un o'r caneuon sy'n cael eu rhyddhau mewn casgliad newydd o glasuron merched y 60au a'r 70au yw cân sydd wedi dod yn ffefryn ymysg gwrandawyr rhaglen Tudur Owen ar Radio Cymru.

Does neb yn fwy syn ynglŷn â phoblogrwydd annisgwyl y gân Watshia Di Dy Hun na'r wraig oedd yn ei chanu yn 1969, Meinir Lloyd.

Ffynhonnell y llun, BBC/Sain
Disgrifiad o’r llun,

Meinir Lloyd a record Watshia Di Dy Hun, un o'r cloriau o'r 1960au mae Sain wedi eu tyrchu o'r archif

"Pan ddechreuodd rhaglen Tudur Owen ei chwarae roedd pobl yn dod ata'i ac yn dweud mod i ar y radio a doedd gen i ddim syniad!" meddai Meinir Lloyd.

"Ond dwi'n credu bod lot o bobl yn meddwl bod angen cael gwared arni erbyn hyn!

"Dwi wedi cael tair galwad yr wythnos diwetha' yn gofyn am ei chwarae mewn priodasau am dipyn bach o sbri yn y parti nos!

"Mae gen i ddau neu dri copi o'r hen record ac maen nhw yn y stafell ffrynt ar y shilff efo lot o bethau eraill - dwi ddim wedi meddwl amdani."

Yn y 1960au roedd Meinir yn ferch ysgol yn Ysgol Brynhyfryd Rhuthun.

Wedi canu dipyn o gerdd dant fe ddechreuodd ganu caneuon pop wrth gyfeilio i'w hun ar y delyn.

Cyfansoddodd Meinir y gân gyda'i brawd-yng-nghyfraith Elwyn Wilson Jones i gynrychioli Sir Ddinbych mewn cystadleuaeth.

Mae hi bellach yn byw yng Nghaerfyrddin gyda'i gŵr Peter Hughes Griffiths, sydd wedi bod yn amlwg ei hun yn y maes adloniant fel arweinydd ffraeth nosweithiau llawen. Eu mab yw'r Aelod Cynulliad Llŷr Huws Gruffydd.

"Roedd hi'n hit fawr ar y pryd ond dwi ddim yn cofio os ddaru ni ennill y gystadleuaeth neu ddim!" ychwanegodd.

Roedd Meinir Lloyd yn wyneb cyfarwydd iawn ar raglenni Cymraeg cynnar fel Disg a Dawn ac roedd ganddi ei chyfres ei hun hefyd o'r enw Mynd â'r Gân.

Mae'r gân yn ymddangos ar CD Rhannu'r Hen Gyfrinachau, dolen allanol.