Jonathan Davies allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd

Ni fydd Jonathan Davies ar gael ar gyfer y Chwe Gwlad wedi'r anaf
Ni fydd canolwr Cymru a'r Scarlets, Jonathan Davies yn cymryd rhan ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd yr anaf i'w droed.
Fe gafodd y chwaraewr 29 oed ei anafu ar ddiwedd y gêm a welodd Awstralia yn curo Cymru o 29-21 yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae'n rhaid i Davies, sydd wedi ennill 65 o gapiau dros Gymru, gael llawdriniaeth ac felly ni fydd ar gael i'r Scarlets na Chymru am tua chwe mis.
Oherwydd yr anaf mae Jamie Roberts o Harlequins wedi ei alw i garfan Cymru, ynghyd â'r prop Scott Andrews, ar gyfer gweill y gemau yng Nghyfres yr Hydref.
Mae Cymru yn gobeithio y bydd y mewnwr Rhys Webb a'r blaenasgellwr Justin Tipuric ar gael i wynebu Georgia yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf.

Mae Jamie Roberts, sydd wedi ennill 93 cap dros Gymru, yng ngharfan Cymru am weddill Cyfres yr Hydref
Mae meddygon Cymru yn monitro'r prop Samson Lee, a fethodd y gêm yn erbyn Awstralia oherwydd anaf i'w bigwrn.
Yn y cyfamser mae'r blaenasgellwr Sam Warburton wedi dweud ei fod o wedi gosod targed i ddechrau ail chwarae erbyn y flwyddyn newydd.
Fe fu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth ôl anafu ei wddf tra ar daith y Llewod i Seland Newydd.
"Rwyf wedi bod yn diodde' o'r anaf ac yn brwydro yn ei erbyn ers rhyw dair i bedair blynedd," meddai'r chwaraewr 29 oed.
"Unwaith iddo gael ei sortio rwy'n gobeithio y gallai chwarae yn fwy rheolaidd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017