Mwy o arian i ysbytai oherwydd y gaeaf?

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth iechydFfynhonnell y llun, GUSTOIMAGES/SCIENCE PHOTO LIBRARY

Dydy'r Ysgrifennydd Iechyd heb ddiystyru cynyddu cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol pe bai'r ysbytai dan bwysau sylweddol dros y gaeaf.

Daw hyn ar ôl i Vaughan Gething gyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £50m i leihau amseroedd aros nôl yn yr haf.

Er hynny, mae'n dweud bod y GIG yn y "cyflwr gorau posib" i ddelio â chyfnod anoddaf y flwyddyn.

Ddydd Mercher mae'r llywodraeth yn cyhoeddi cynlluniau newydd i wrthsefyll pwysau'r gaeaf.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys cynyddu nifer y gwelyau mewn ysbytai ac yn y gymuned.

Bydd gwasanaeth ffôn 111 yn cael ei ehangu i alluogi unigolion i gael cyngor gan feddygon teulu a nyrsys, a bydd 'ap' ffôn yn dangos amseroedd aros adrannau brys.

'Adeg heriol'

Dywedodd Mr Gething ei fod yn gobeithio osgoi'r galw am fuddsoddiad pellach, ond y byddai'n ystyried rhoi mwy o arian i ysbytai "pe bai pwysau ychwanegol arwyddocaol ar draws gwasanaethau cyhoeddus".

Disgrifiad o’r llun,

Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething

"Mae'r gaeaf yn adeg heriol i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac i'r staff sy'n gweithio mor galed.

"Bydd cyfres o gamau gweithredu cadarnhaol yn cael eu cyflwyno i gryfhau gwasanaethau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys cynyddu nifer y gwelyau mewn ysbytai ac yn y gymuned er mwyn dygymod â'r nifer uwch o gleifion ag amrywiol gyflyrau rydyn ni'n disgwyl y bydd angen eu derbyn i'r ysbyty dros y gaeaf."

Ychwanegodd: "Fel y llynedd, byddwn yn cryfhau gwasanaethau triniaeth ddydd brys er mwyn i gleifion â chyflyrau penodol gael eu trin heb orfod aros yn yr ysbyty dros nos lle bynnag bo hynny'n bosib.

Mae camau eraill yn cynnwys:

  • Mwy o ddarpariaeth saith diwrnod gwaith

  • Mwy o benderfyniadau blaenoriaethu wrth ddrws ffrynt yr ysbyty

  • Ymestyn oriau gwaith

  • Cymorth ychwanegol i wasanaethau tu allan i oriau a chartrefi gofal

  • Gwell defnydd o weithwyr cymdeithasol mewn ysbytai

  • Mwy o ddefnydd o gefnogaeth fferyllfeydd

Bydd byrddau iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau fel Age Cymru yn dosbarthu 10,000 copi o ddogfen 'Fy Iechyd y Gaeaf Hwn'.

Mae'r ddogfen yn annog y cyhoedd i fanteisio ar arbenigedd gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn y gymuned, gan leddfu'r pwysau ar ysbytai a meddygon teulu.

Disgrifiad,

Dr Meinir Eleri Jones yn trafod sefyllfa Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Trin yn gynt

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall: "Gall fferyllwyr cymunedol roi cyngor am fân anhwylderau, peswch neu annwyd .... a'ch cynghori a oes angen gweld meddyg ai peidio."

"Yn aml gallwch gael eich gweld a'ch trin yn gynt, gan arbed amser a rhyddhau meddygon teulu ac adrannau brys mewn ysbytai i'r rhai sydd eu hangen mewn gwirionedd."

Mae'r ddogfen hefyd yn cynnwys ffurflen i bobl â chyflyrau hirdymor ei harddangos yn eu cartrefi, gan restru gwybodaeth hanfodol i berthnasau, gofalwyr a gweithwyr iechyd pe bai argyfwng yn codi - cam allai helpu osgoi ymweliadau diangen i'r ysbyty.

Mae apêl hefyd i gleifion ddefnyddio unedau mân anafiadau, lle bydd meddygon teulu yn bresennol yn fwy cyson fel rhan o gynlluniau'r gaeaf.

Dywedodd Dr Meinir Eleri Jones, rheolwr uned mân anafiadau Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli, eu bod yn barod ar gyfer misoedd heriol y gaeaf.

"Ni yn edrych ar ble ma'r 'pinch points', ble ma'r amseroedd caled, amseroedd prysur a bod ni'n rhoi mwy o staff mla'n ar yr amserau 'ny, a ma fe yn newid yn ystod yr wythnos."