Galw am gofeb i Niclas y Glais

  • Cyhoeddwyd
Rhan o lun clawr Ar Drywydd Niclas y GlaisFfynhonnell y llun, Gwasg Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Aildaniwyd gyrfa Niclas Y Glais fel bardd yn ystod cyfnod yn y carchar ar ôl cael ei gyhuddo o fod yn ffasgydd

Mae yna alw am godi carreg i gofio i un o gymeriadau mawr ardal y Preselau.

Daw'r alwad gan awdur y cofiant cyflawn cyntaf i Niclas y Glais - bardd, gweinidog yr Efengyl a lladmerydd dros y Blaid Gomiwnyddol.

Dywedodd Hefin Wyn: "Mae angen gwneud mwy i'w gofio. Mae traddodiad o feini coffa yn y Preselau ond dim un hyd yn hyn i gofio am Niclas."

Mae'n awgrymu ardal Crugiau Dwy rhwng Crymych a Mynachlog-ddu fel lleoliad posib ar gyfer cofeb.

Comiwnydd diedifar

Daeth T E Nicholas (1879-1971) i amlygrwydd tra'n weinidog rhwng 1904 a 1914 ym mhentre'r Glais, yng Nghwm Tawe, wrth iddo ledaenu achos Sosialaeth.

Roedd yn rhannu llwyfannau gyda sylfaenydd y Blaid Lafur, Keir Hardie, a fe draddododd bregeth angladdol Hardie yn Aberdâr. Aeth ymlaen i ymgeisio am ei sedd Seneddol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar ôl ymuno â'r Blaid Gomiwnyddol, a chefnogi cytundeb 1939 rhwng y Rwsiaid a'r Natsïaid, fe gafodd ei gyhuddo o fod yn ffasgydd a'i garcharu.

Tra'n rhannu cell gyda'i fab Islwyn yng ngharchardai Abertawe a Brixton, fe aildaniwyd ei yrfa farddonol.

'Bardd y bobl'

Roedd eisoes yn cael ei adnabod fel 'Bardd y Bobl' ar ôl ennill nifer o gadeiriau eisteddfod tra'n weinidog ym mhentre Y Glais.

Dywedodd Hefin Wyn: "Roedd yn gomiwnydd diedifar a byddai'n dannod y frenhiniaeth a chyfalafiaeth ar bob gafael.

"Roedd hefyd yn ddarlithydd ac yn ddeintydd. O gyfuno'r elfennau hyn ffurfiwyd colsyn eirias o gymeriad a anwylodd ei hun i'r genedl."