Arbenigwyr o blaid cadw swydd Comisiynydd y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Spin the wheel in Welsh
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru am greu comisiwn i gymryd lle swydd Comisiynydd y Gymraeg

Mae grŵp rhyngwladol o arbenigwyr iaith wedi cwestiynu cynllun Llywodraeth Cymru i ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Bwriad y llywodraeth yw creu comisiwn i'r iaith Gymraeg yn lle'r swydd benodol.

Ond dywedodd Cymdeithas Rhyngwladol Comisiynwyr Iaith nad oes unrhyw gorff yn well na chomisiynydd unigol i ddal y llywodraeth i gyfri.

Mae Gweinidiog y Gymraeg, Eluned Morgan yn mynnu os fydd y drefn yn newid, bydd y drefn newydd "ddim yn wanach".

Roedd ei ragflaenydd Alun Davies wedi dweud ei fod am greu system oedd mor effeithlon â phosib wrth iddo gyhoeddi cynlluniau ar gyfer comisiwn i hybu'r iaith yn gynharach eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meri Huws yn aelod o'r Gymdeithas Rhyngwladol Comisiynwyr Iaith

Mae'r Gymdeithas - sy'n cyfri Comisiynydd presennol y Gymraeg Meri Huws fel aelod - wedi dweud wrth ymgynghoriad ar y mater "nad oes unrhyw gorff yn well na chomisiynydd iaith unigol i ddal y llywodraeth i gyfri yn ei chynllun beiddgar ac uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg".

Dywedodd AC Plaid Cymru, Adam Price: "Mae'r comisiynydd iaith yn chwarae rôl bwysig wrth reoleiddio'r ddarpariaeth o wasanaethau yn y Gymraeg, a byddai diddymu'r rôl bron yn sicr o fod yn niweidiol i'r gwelliannau positif wedi eu cyflawni."

Dywedodd Ms Morgan wrth Aelodau Cynulliad ddydd Mawrth: "Yr un peth ydw i ddim am wneud yw rhoi'r syniad bod unrhyw newid y byddwn ni o bosib yn gwneud, yna fod beth bynnag ddaw yn ei le yn mynd i fod yn wanach.

"Dyw hynny yn syml ddim yn wir."

'Ffolineb llwyr'

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Dyma dystiolaeth bellach i gefnogi'r ddadl dros gadw Comisiynydd y Gymraeg.

"Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg, a hynny heb gynnig unrhyw reswm, unrhyw resymeg nac unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny.

"Roedd papur gwyn y Llywodraeth wedi'i seilio ar ddim ond naw mis o waith Comisiynydd y Gymraeg ar y Safonau. Ond mae tystiolaeth glir yn dangos bod y swydd eisoes yn cael dylanwad ar hawliau pobl ar lawr gwlad.

"Ffolineb llwyr fyddai cael gwared â'r swydd ar ôl cymryd amser, arian ac egni i'w sefydlu, ond yn bwysicach am ei bod hi'n amlwg ei fod yn swyddogaeth sy'n cynnig gwerth clir am arian ac yn effeithiol. Adeiladu ar y swydd a'i datblygu sydd eisiau nawr, nid ei gwaredu."