Llywodraeth Cymru'n croesawu dyfarniad isafbris alcohol

  • Cyhoeddwyd
gwinFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu dyfarniad gan y Goruchaf Lys sydd yn caniatáu cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol.

Roedd Senedd Yr Alban wedi pleidleisio pum mlynedd yn ôl o blaid cyflwyno deddfwriaeth o'r fath, ond fe wnaeth her gyfreithiol olygu oedi i'r broses.

Ddydd Mercher fe wrthododd y llys uchaf yn y DU her y Gymdeithas Wisgi Albanaidd, gan olygu y gall y ddeddf nawr gael ei chyflwyno.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething - sydd eisiau cyflwyno cyfyngiadau tebyg - ei fod "wrth ei fodd".

'Clir a diamheuaeth'

Ym mis Hydref fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun ar gyfer cyfraith newydd i ddynodi isafbris ar gyfer gwerthu alcohol yng Nghymru.

Gallai isafbris o 50c yr uned ar alcohol olygu y byddai can o seidr yn costio o leiaf £1, potel win yn costio o leiaf £4.69, a litr o fodca yn costio dros £20.

Yn ôl gweinidogion fe allai taclo goryfed olygu y bydd un bywyd yn cael ei achub yr wythnos.

Maen nhw hefyd wedi dweud y gallai olygu 1,400 yn llai o gleifion ysbyty bob blwyddyn.

Ond mae rhai gwleidyddion gan gynnwys Neil Hamilton o UKIP wedi dadlau na fyddai'r mesur yn lleihau goryfed, ac mai cosbi yfwyr cymedrol fyddai'r canlyniad.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Gymdeithas Wisgi Albanaidd wedi ceisio herio ymgais Llywodraeth yr Alban i gyflwyno isafbris tebyg

Wrth ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys, dywedodd Mr Gething fod yr isafbris yn "ffordd gymesur o daclo'r niwed sydd yn gysylltiedig ag alcohol".

"Mae'r dyfarniad yn cadarnhau mai mater i'r sefydliadau datganoledig democrataidd yw hi i benderfynu ble ddylai'r cydbwysedd fod rhwng amddiffyn iechyd a materion masnach," meddai.

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried unrhyw oblygiadau o'r dyfarniad ar gyfer eu mesur iechyd cyhoeddus nhw.

"Yn y cyfamser rydyn ni'n croesawu'r dyfarniad clir a diamheuaeth yma fod isafbris yn ffordd briodol a chymesur o daclo yfed niweidiol a pheryglus."