Welcome to Welsh: Llyfr dysgu Cymraeg o'r oes o'r blaen
- Cyhoeddwyd
Mae nifer fawr o ddysgwyr wedi cael budd mawr o'r gyfrol Welcome to Welsh gan Heini Gruffudd, a gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn 1984.
Ers hynny, mae yna 50,000 o gopïau wedi cael eu gwerthu. Hyd heddiw, mae'n parhau'n boblogaidd - cafodd 4,000 copi eu gwerthu yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ynddo, mae iaith eithaf ffurfiol yn cyferbynnu â'r straeon sydd yn eithaf coch ar adegau - er mwyn sicrhau fod dysgwyr y Gymraeg yn barod at unrhyw achlysur.
Mae Heini ar hyn o bryd yn gweithio ar fersiwn mwy modern o'r cwrs, ac o edrych ar rai o'r straeon, efallai ei bod hi'n hawdd gweld pam...
Yn y stori gyntaf, mae dyn yn galw draw i werthu brwsus... ac yna am ryw reswm fe welwn y gwerthwr a'r cwsmer yn y gwely gyda'i gilydd, fel mae Dai y gŵr yn cyrraedd adre'! Yn anffodus, mae'r stori yn gorffen ar dipyn o cliffhanger ac ni chawn wybod ffawd y gwerthwr brwsus sy'n cuddio yn y cwpwrdd.
Heini Gruffudd sy'n sôn mwy am hanes y llyfr:
"Roedd hwn ar y pryd yn eitha' chwyldroadol, fod y Gymraeg yn cael ei dysgu drwy gyfres o luniau. Roedd e'n gyfres oedd yn ymddangos mewn cylchgrawn misol i oedolion, Siop Siarad, ac ar ôl dipyn roedd digon o gynnwys yno i'w ehangu i wneud llyfr.
"Mae'r hen beth wedi gwerthu ar draws y blynyddoedd, ond mae hi'n hen hen bryd ei newid e. Cafodd hwn ei wneud 33 o flynyddoedd yn ôl - mae'n perthyn i'r oes o'r blaen. Dyna pam mae angen un newydd ar frys."
Ynghyd â straeon anarferol, a'r amharch uchod tuag at Orsedd y Beirdd, mae yna hefyd dipyn o sôn am fynd am beint a stori gyfan am y cymeriadau yn gwneud eu gwin eu hunain:
"Bydd hynny yn y fersiwn newydd hefyd, gobeithio. Ar y pryd, roedd deunyddiau dysgu Cymraeg mor sych a ffurfiol. Trio cyflwyno tipyn o sbort a hwyl a diawlineb o'n i. Mae lot o'r straeon am fod yr un fath, ond dwi wedi newid rhai ac ychwanegu rhai hefyd.
"Mae Y Lolfa am newid y lluniau yn gartwnau yn y fersiwn newydd, ond dwi'n gobeithio bydd dal dipyn o ysbryd y gwreiddiol. Ond dwi'n credu bydd angen newid ambell i stori... efallai mai gwerthu ffenestri fydd e yn hytrach na gwerthu brwsus...!"
Mae Heini'n sôn fod yr iaith, ynghyd â'r straeon, hefyd yn cael ei diweddaru:
"Mae'r fersiwn yma yn eithriadol o hen ffasiwn - llawer rhy ffurfiol yn ôl safonau heddi, er ar y pryd efallai ei fod yn torri rhai ffiniau. Dwi wedi gorfod newid y ffurfiau berfol i gyd, dwi'n meddwl, sydd yn ddiddorol.
"Mae 'na fylchau ynddo fe - dim ond ychydig dros gant tudalen yw e - ond dwi'n gobeithio ei fod e wedi cwmpasu'r prif gystrawennau o leia'. A dwi bron yn llwyddo i osgoi'r treigladau yn gyfan gwbl, ac ond yn eu cyflwyno nhw fel maen nhw'n digwydd. Roedd gymaint o lyfrau ar y pryd - llai heddiw, efallai - oedd yn dechrau gyda'r anawsterau a phawb wedyn yn danto."
Cyfeillion i'r awdur oedd y modelau, ac maen sicr yn edrych fel tasai llawer o hwyl wedi bod:
"Diolch i'r ffrindiau oedd mor amyneddgar ac yn fodlon cymryd rhan. Cyfaill mawr i mi oedd y dyn yn y sgets gwerthu brwsus - ei wraig sydd yn y lluniau gydag e, peidiwch â phoeni - mae wedi bod yn farnwr uchel-lys ers hynny!
"A dwi fel Alfred Hitchcock, oedd yn rhoi ei hun yn ei holl ffilmiau - dwi ar dudalen 106 yn smwddio, gyda Gwydion y mab, sydd dros i ddeugain erbyn hyn!"