Dewis Ffrainc i gynnal Cwpan Rygbi'r Byd 2023
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Cwpan Rygbi'r Byd 2023 yn cael ei chynnal yn Ffrainc, ar ôl curo ceisiadau gan Dde Affrica ac Iwerddon.
Roedd disgwyl i Dde Affrica ennill y bleidlais ar ôl i adolygiad annibynnol argymell eu bod yn llwyfannu'r gystadleuaeth.
Fodd bynnag, mewn cyfarfod o Gyngor Rygbi'r Byd yn Llundain ddydd Mercher, cafodd Ffrainc eu dewis i gynnal y 10fed digwyddiad.
Mae Ffrainc wedi cynnal y gystadleuaeth ddwywaith yn y gorffennol - yn 1991 a 2007 - ac fe enillon nhw yn yr ail rownd o bleidleisio, gyda 24 o bleidleisiau o'i gymharu â 15 i Dde Affrica.