Wardeniaid baw ci 'yn cael eu bygwth' yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Dim cŵnFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae staff sy'n gorfodi rheolau sbwriel a baw ci yn Sir Conwy yn cael eu bygwth gan grŵp bychan o ymgyrchwyr, yn ôl y cyngor.

Mae'r sir yn un o'r ardaloedd yng Nghymru sy'n defnyddio cwmni preifat Kingdom Security i roi dirwyon i bobl sy'n gollwng sbwriel neu'n methu â chodi baw ci.

Ond yn ddiweddar mae protestiadau wedi bod yn erbyn y ffordd mae'r cwmni'n gweithredu, ac mae'r cyngor yn dweud bod rhai o'r protestwyr wedi mynd yn rhy bell.

Mae'r cwmni yn rhoi dirwy o £75 i unrhyw un sy'n cael eu dal yn gollwng sbwriel neu ddim yn codi baw eu cŵn.

'Codi braw'

Ond mae rhai ymgyrchwyr wedi cyhuddo'r wardeniaid o godi braw ar bobl i'w gorfodi i dalu dirwyon, weithiau pan nad oes tystiolaeth mai ci'r person penodol hwnnw oedd yn gyfrifol.

Mae'r ymgyrchwyr yn mynnu bod wardeniaid yn cael eu hysgogi gan gymhelliant ariannol, gan fod y cwmni yn derbyn rhan o'r arian sy'n cael ei godi o'r dirwyon.

Dywedodd Cyngor Conwy bod gweithwyr Kingdom Security wedi wynebu "bygythiadau, iaith ac ymddygiad ymosodol" gan grŵp bychan o ymgyrchwyr.

Ychwanegon nhw fod "difrod troseddol wedi'i wneud i arwyddion sy'n hysbysu'r cyhoedd am ble y maen nhw'n cael cerdded eu cŵn".

Mae'r cyngor hefyd yn mynnu bod "y mwyafrif llethol o drigolion Conwy yn cefnogi gorfodaeth gref ar sbwriel a baw ci" ac nad ydyn nhw'n "goddef unrhyw fath o sarhad neu fygythiadau".