Cwmni o Dubai i greu 250 o swyddi pacio bwyd yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Stad ddiwydiannol Llai ger WrecsamFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Hotpack Packaging yn sefydlu ffatri ar Ystâd Ddiwydiannol Llai

Mae cwmni deunydd pacio bwyd o Dubai yn ehangu eu busnes i Wrecsam gan greu 250 o swyddi.

Bydd Hotpack Packaging yn sefydlu ffatri ar Ystâd Ddiwydiannol Llai ar ôl prynu eiddo a thir yno, ac maen nhw'n bwriadu creu swyddi gweithgynhyrchu a swyddi warws dros gyfnod rhwng tair a phum mlynedd.

Roedd nifer o wledydd Ewrop gan gynnwys Slofacia wedi ceisio denu'r cwmni, yn dilyn penderfyniad tîm rheoli Hotpack i weithgynhyrchu ar y cyfandir.

Penderfynodd y cwmni symud i ogledd Cymru ar ôl derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru a benthyciad o £1.5m trwy Gyllid Cymru - banc datblygu cyntaf y DU.

Dyma'r benthyciad cyntaf yn y gogledd o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy'n werth £100m.

Mae disgwyl i safle Hotpack ddenu buddsoddiad gwerth £50m i'r rhanbarth.

'Manteision i'r economi'

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Dw i wrth fy modd bod Hotpack Ltd wedi penderfynu symud i Wrecsam.

"Dw i'n hyderus y bydd Hotpack yn dod â manteision go iawn i'r economi a chymuned leol, a dw i'n edrych ymlaen at ymweld â'r cyfleuster newydd ar ôl iddo agor."

Ychwanegodd: "Fis diwethaf, roeddwn yn falch o gael lansio Banc Datblygu Cymru, a fydd yn rhoi mantais i ni wrth gystadlu yn y DU.

"O'i herwydd, dw i'n hyderus y byddwn ni'n fwy llwyddiannus byth o ran creu swyddi yng nghymunedau ledled Cymru."

Dywedodd Abdul Jebbar, cyfarwyddwr byd-eang Hotpack Packaging: "Ers ein hymweliad cyntaf â'r wlad, mae pobl Cymru, ac yn benodol bobl Wrecsam, wedi cynnig lefel hynod uchel o gymorth i ni, yn bersonol ac yn fasnachol.

"Rydyn ni wedi dechrau'r gwaith datblygu, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael perthynas hir a llewyrchus â phobl a busnesau Cymru."

Bydd Hotpack yn rhannu'r un safle â chwmni Sharp, sy'n gweithgynhyrchu ar Ystâd Ddiwydiannol Llai ers 1984.