Ateb y Galw: Geraint Cynan
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Geraint Cynan sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Martyn Geraint wythnos diwetha'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Bod mewn ystafell fawr crand tebyg i banqueting hall (meddyliwch am fersiwn lai o Hogwarts!) tra bod fy rhieni'n ymweld â rhywun. Minne a'm mrawd hŷn yn whare â theganne o dan y ford anferth.
O'n i ddim yn siŵr os mai atgof neu freuddwyd oedd hi, ond wedi holi'n rhieni, Neuadd Plas Llandinam oedd e, a'm rhieni yn ymweld â Lady Davies. Byddwn i 'di bod yn dair ar y pryd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Does gen i ddim cof o unrhywun... wir!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Canu mewn cyngerdd yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci pan yn fyfyriwr, yn helpu'r gymdeithas gorawl leol gan fod prinder tenoriaid. Ro'n i'n darllen y darn ar y pryd, heb ei 'nabod. Popeth yn iawn tan wyth bar o'r diwedd. Stopiodd y gerddorfa a'r côr... ond ganes i nodyn cywir yn uchel iawn yn y man anghywir... mewn tawelwch pur!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Fyddai'n ffindo bod rhai caneuon yn fy ngwneud i'n ddagreuol. Galla i ddim â pheidio gollwng deigryn wrth glywed llais y diweddar Dafydd Dafis.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Nag oes yn fy nhyb i. Oes, gormod i'w rhestru ym marn fy nheulu. Y mwya' fydde gorfodi trefn call ar y peiriant golchi llestri - fe wna i ail-stacio bob tro!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ry'n ni mor ffodus i fyw mewn gwlad mor bert. Anodd dethol un o blith traethau Gŵyr, arfordir Penfro a Cheredigion, yr Eifl, dyffrynnoedd Tywi a Chlwyd... ond ma'r olygfa wrth deithio i'r gogledd pan yn dod dros y clip ar bwys Storey Arms ar y Bannau yn rhyfeddol ym mhob tywydd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Rhwng gêm ola' camp lawn tîm rygbi Cymru yn erbyn Iwerddon 2005, a gêm Cymru yn erbyn Gwlad Belg Euro 2016... ffili rhannu rheiny mewn gwirionedd!
O Archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Penderfynol, Teg, Ffyddlon.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
LA Confidential, er bod The Shawshank Redemption yn ail agos iawn.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Fy niweddar ewythr, brawd mam - John Rhoslyn Davies. Roedd e'n arweinydd clasurol o'r radd flaenaf a fu farw yn ei dridegau. Yn ôl y sôn, roedd e'n athrylith.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Ma'n debyg ein bod ni'n perthyn o bell i'r enwog Annie Powell, maer Comiwnyddol y Rhondda yn yr 80au a ganodd Hen Wlad Fy Nhadau gerbron Khruschev yn y Kremlin!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Casglu'r teulu at ei gilydd a threulio amser yn bwyta, yfed, hel atgofion a'u dal nhw'n dynn.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Amhosib dewis un yn unig - ma'n newid drw'r amser. Ond mae Fortunate Son gan un o fy arwyr, Bruce Hornsby, yn un dwi byth yn blino arni.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Dwi ddim yn ddyn pwdin fel arfer, ond unrhyw brif gwrs neu ddechreuwr â chig oen neu hwyaden. S'dim ots pa arddull, Ffrengig, Indiaidd, Asiaidd... (dwi'n glafoerio'n barod!)
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Naill ai Mozart i ga'l deall beth yw gwir athrylith, neu bod yn aelod o dîm rygbi, pêl-droed neu griced rhyngwladol er mwyn profi'r wefr o gynrychioli Cymru (yn fy mreuddwydion, gwaetha'r modd).
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Branwen Gwyn