Cwmni fferyllol i fuddsoddi £22m a chreu swyddi yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
pigiadFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwmni fferyllol Ipsen wedi cyhoeddi buddsoddiad o £22m ar eu safle yn Wrecsam.

Dywedodd y cwmni - sy'n un o'r 50 mwyaf yng Nghymru - ei fod yn rhan o fuddsoddiad ehangach o tua £85m.

Mae hynny'n cynnwys £45m dros y pum mlynedd diwethaf, a £40m pellach dros y blynyddoedd nesaf.

Dros gyfnod y buddsoddiad cyfan, mae disgwyl i Ipsen greu tua 100 o swyddi ychwanegol yn Wrecsam, lle maen nhw eisoes yn cyflogi 400.

Mae'r buddsoddiad yma yn benodol ar gyfer adnodd ymchwil, llinell gynhyrchu a llinell becynnu ar gyfer un feddyginiaeth, sef Dysport - math o botulinum toxin.

Mae cyffur tebyg yn cael ei gynhyrchu gan gwmni arall dan yr enw Botox, ac yn ogystal â defnyddiau cosmetig mae'n cael ei ddefnyddio i drin cyflyrau fel parlys ymledol (MS) a pharlys yr ymennydd.

'Ymrwymiad i'r gogledd'

Mae Ipsen wedi bod yn gweithredu yn Wrecsam ers 1995, ac maen nhw'n gwerthu eu cynnyrch mewn 115 o wledydd ar draws y byd.

Wrecsam yw'r unig un o'u safleoedd sy'n gallu cynhyrchu, pecynnu a marchnata'u cynnyrch mewn un lle.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi croesawu'r buddsoddiad

Fe fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns yn ymweld â'r safle ddydd Gwener, a dywedodd cyn hynny: "Mae Ipsen yn un o straeon newyddion gorau gogledd Cymru.

"Mae'r ehangu parhaus yn dangos eu hymrwymiad i ogledd Cymru ac i'r gweithlu llawn sgiliau sydd yma.

"Mae'n gyfnod cyffrous i'r cwmni ac i'r sector yng Nghymru gyfan wrth i ni geisio sefydlu ein hunain fel canolfan ragoriaeth i wyddorau bywyd - o ran ymchwil a datblygu - ar draws y byd."

Dywedodd Aidan Murphy ar ran Biotech Development & Manufacturing: "Rydym wrth ein bodd gyda'r cyhoeddiad wrth i ni dyfu'r cynhyrchu yn sylweddol yn Wrecsam i adlewyrchu'r galw ac uchelgais y cwmni.

"Rydym yn ffodus o fedru gweithio gyda chriw o unigolion sydd â sgiliau uchel ar draws holl adrannau'r sefydliad yn Wrecsam, ac yn gwybod bod y buddsoddiad yn cadarnhau safle'r cwmni yma fel prif adnodd cynhyrchu meddyginiaethau yn y DU."