Gweinidog yn galw am wahardd cosbi plant yn gorfforol
- Cyhoeddwyd
Does 'na ddim lle i gosbi plant yn gorfforol yn y Gymru sydd ohoni, meddai'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros blant yn Llywodraeth Cymru.
Daw sylwadau'r AC Huw Irranca-Davies cyn i ymgynghoriad ar y pwnc ddechrau ym mis Ionawr.
Yn ôl Mr Irranca-Davies ni all yr arfer "fod yn dderbyniol bellach".
Mae'r sylwadau wedi cael eu croesawu gan elusen amddiffyn plant, yr NSPCC.
Ond mae ymgyrchwyr yn erbyn newid yn y gyfraith wedi dweud y byddai gwaharddiad yn gwneud i rieni cyffredin droseddu.
'Amddiffyn plant a chefnogi rhieni'
Mae sylwadau Mr Irranca-Davies ymhlith y rhai cryfaf sydd wedi cael eu gwneud ar pwnc gan weinidog yn Llywodraeth Cymru.
O dan y ddeddf newydd ni fyddai "cosb rhesymol" yn amddiffyniad dros daro plentyn.
Ychwanegodd Mr Irranca-Davies: "All hi ddim bod yn dderbyniol mewn cymdeithas fodern i gosbi plant yn gorfforol.
"Mae'n iawn i ni fel llywodraeth i weithredu er mwyn amddiffyn plant a chefnogi rhieni i ddefnyddio dulliau amgen."
Mae'r AC annibynnol Nathan Gill wedi holi sut y byddai modd plismona gwaharddiad taro plant.
"Dwi ddim am i'r llywodraeth reoli pob agwedd o'n bywydau," meddai.
Ar ran yr NSPCC dywedodd llefarydd: "Mae'n rhaid amddiffyn plant rhag dulliau ffyrnig o ddisgyblu.
"Mae'n anghywir bod modd defnyddio amddiffyniad i gyfiawnhau taro plant - dyw hynny ddim yn digwydd mewn achosion oedolion."
Ond mae Lowri Turner o'r grŵp ymgyrchu Byddwch yn Rhesymol, sy'n gwrthwynebu'r gwaharddiad yn dweud: "Dyw taro ysgafn ar gefn y goes gan fam gariadus ddim yr un fath â bwrw plentyn.
"Ry'n ni'n annog Aelodau Cynulliad i wrando ar etholwyr, i ddarllen canlyniadau yr ymgyngoriad ac i feddwl am ffyrdd i gefnogi rhieni yn hytrach na'u gwneud yn droseddwyr."
Nid Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i ystyried deddfwriaeth ar daro plant, mae Llywodraeth Yr Alban hefyd yn cefnogi cynnig gan John Finnie o'r Blaid Werdd.