'Syniadau cyferbyniol' wrth wraidd ymddiswyddiad Coleman

  • Cyhoeddwyd
ColemanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chris Coleman yn siarad yn ei gynhadledd gyntaf i'w wasg ers arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner i reoli Sunderland

"Syniadau cyferbyniol" oedd wrth wraidd penderfyniad Chris Coleman i ymddiswyddo fel rheolwr Cymru.

Dywedodd yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg ers arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner i fod yn rheolwr newydd Sunderland ei bod hi'n amser iddo "symud ymlaen".

Daeth cadarnhad nos Wener gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru bod Coleman wedi ymddiswyddo wedi bron i chwe blynedd yn arwain y tîm cenedlaethol.

Yn ôl Coleman: "Unwaith ei bod hi'n amlwg bod fy syniadau'n wahanol i rai swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru, roedd hi'n amser i symud ymlaen."

"Doeddwn i ddim yn teimlo mai fi oedd y person iawn i fynd a'r tîm ymlaen i'r cyfeiriad roeddwn i eisiau mynd iddo."

'Cymro angerddol'

Fe gymerodd Coleman ei sesiwn ymarfer cyntaf fore Sul cyn i'w dîm newydd, sydd ar waelod y Bencampwriaeth, wynebu Aston Villa nos Fawrth.

Yn ei gyfweliad cyntaf â'r BBC ers i Coleman ymddiswyddo, dywedodd is-reolwr Cymru Osian Roberts mai ei ddymuniad ef fyddai i Gymro olynu Coleman.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Osian Roberts yn dymuno gweld Cymro yn olynu Chris Coleman fel rheolwr Cymru

Mewn cyfweliad ar raglen Camp Lawn, dywedodd Roberts: "I mi yn bersonol fel Cymro angerddol, buaswn i'n dymuno mai Cymro sydd wrth y llyw ond ar yr un pryd mae fy meddwl i'n hollol agored."

Ychwanegodd fod y ddwy ochr wedi ceisio dod i gytundeb pan oedd trafodaethau'n digwydd ond bod "pŵer ariannol aruthrol" gan y clybiau mawr.

"Ro'n i wedi gobeithio y byddai'r ddwy ochr yn gallu dod ynghyd a chytuno i symud ymlaen.

"Dwi'n meddwl bod y ddwy ochr wedi trio... ond y realiti ydy bod pŵer ariannol y clybiau mawr yn aruthrol."

'Anrhydedd'

Yn y gynhadledd i'r wasg ychwanegodd Coleman ei fod yn dymuno gweld Cymro yn ei olynu i reoli'r tîm cenedlaethol.

"Hoffwn weld Cymro yn cymryd drosodd, oherwydd am sawl blwyddyn bellach rydym wedi bod yn adlewyrchu ffordd Cymru o wneud pethau.

"Felly dwi'n teimlo byddai hi'n rhagrithiol i fynd gyda hyfforddwr o dramor.

"Dwi'n credu dylai pethau aros y tu fewn, ac mae'n rhaid credu yn y system sy'n bodoli.

"Allai ddim enwi neb gan nad oes gen i un i'w gynnig.

"Roedd Cymru yn bleser mawr. Dyna'r anrhydedd mwyaf i mi erioed ei chael i arwain fy ngwlad."