Campwaith coll Castell Penrhyn
- Cyhoeddwyd
Mae llun sydd wedi ei arddangos i'r cyhoedd mewn castell yng Ngwynedd ers 150 o flynyddoedd wedi ei gofnodi'n swyddogol fel campwaith.
Roedd yna gred mai copi oedd y portread o'r 17eg ganrif o awdur Sbaenaidd, ond mae bellach yn cael ei gydnabod fel darn gwreiddiol gan un o arlunwyr amlycaf Sbaen, Bartolome Esteban Murillo.
Mae'r paentiad yn rhan o gasgliad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghastell Penrhyn, Bangor.
Ar hyn o bryd, mae'r llun yn rhan o arddangosfa o waith Murillo yn Efrog Newydd.
Asesu'r 'ail gopi'
Fe werthwyd lun gan Murillo o Iesu Grist, Ecce Home, am £2.7m ym mis Gorffennaf. Nifer fach o bortreadau ganddo sy'n bodoli, ac mae rhai yn werth milynau o bunnau.
Y gred oedd mai copi oedd y portread o Don Ortiz de Zuniga yng Nghastell Penrhyn, ynghyd ag un arall yn Seville, a bod y llun gwreiddiol wedi hen ddiflannu.
Ond ar ôl ymweld â Bangor er mwyn asesu'r "ail gopi" daeth arbenigwr celf i'r casgliad mai hwn oedd y darn gwreiddiol.
Roedd yr Arglwydd Penrhyn o'r teulu Pennant wedi casglu nifer o baentiadau'r Hen Feistri yn y 19eg ganrif. Pan brynodd y llun tua 1870 roedd yn credu taw Murillo oedd yr arlunydd ond fe gafodd ei ailgofnodi fel copi maes o law.
Dydi'r llun ddim am werth ond mae cadarnhau ei wir werth yn gam arwyddocaol, yn ôl yr arwerthwyr Sotheby's.
Unwaith y daeth y portread ei ailddosbarthu fel llun gwreiddiol, cafodd ei gludo yn syth i Efrog Newydd, a'i ychwanegu at arddangosfa'r Frick Collection o waith Murillo yn Efrog Newydd.
Pan ddaw'r arddangosfa honno i ben ym mis Chwefror, fe fydd yn symud i National Gallery Llundain.