Gweinidog: 'Posib rhoi cyfrifoldebau iaith i'r Ombwdsmon'
- Cyhoeddwyd
Gallai'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus etifeddu rhai o swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl gweinidog.
Dywedodd Eluned Morgan - gafodd ei phenodi'n Weinidog y Gymraeg bythefnos yn ôl - bod yr Ombwdsmon wedi bod yn "effeithiol o ran gwerth am arian".
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am gael gwared â swydd y comisiynydd, gan greu comisiwn i hybu'r iaith a rhoi'r cyfrifoldeb am safonau iaith i weinidogion.
Mae'r Ombwdsmon presennol, Nick Bennett, wedi cynnig cymryd cyfrifoldeb am y cwynion am wasanaethau yn y Gymraeg.
'Effeithlonrwydd'
Mae newid y drefn o ran hyrwyddo a gosod safonau am yr iaith yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mewn ymateb i ymgynghoriad ar y newidiadau, dywedodd Mr Bennett y gallai ei swyddfa ddatrys cwynion yn gynt na'r system bresennol, sy'n "or-fiwrocrataidd a chymhleth" yn ei ôl ef.
Pan ofynnwyd i Ms Morgan am y posibilrwydd y gallai'r Ombwdsmon gymryd rhai o ddyletswyddau'r comisiynydd, dywedodd ei bod "ddim yn siŵr eto".
Ychwanegodd: "Be' sy'n glir yw bod gan yr Ombwdsmon swyddfa effeithiol, ond rydyn ni'n edrych ar hyn o bryd i weld a oes ganddo'r offer sydd eu hangen arno a dealltwriaeth o beth sydd angen ei wneud."
Dywedodd Ms Morgan mai'r "peth pwysica' i fi yw nid y strwythur ond beth sy'n gweithio ac yn mynd i sicrhau ein bod ni'n bwrw ati i gyrraedd y nod".
Mae hynny, meddai, yn golygu "hybu'r iaith Gymraeg a sicrhau ein bod ni'n cael gwerth am ein harian".
Fe ddywedodd Ms Morgan hefyd bod angen "galw pobl allan" os nad ydyn nhw'n "parchu'r iaith".
Mae wedi gofyn i'w swyddogion ysgrifennu at gwmni trenau GWR, gafodd eu beirniadu am eu cyhoeddiadau uniaith Saesneg.
Ond dywedodd nad gorfodi hynny ar gwmnïau preifat ydy'r flaenoriaeth ar hyn o bryd: "Falle' ddown ni at y pwynt yna, ond ar hyn o bryd dwi'n meddwl bod lot fawr wedi'i wneud o ran annog pobl."