Abad yn ymddiheuro am fethiannau honiadau Ynys Bŷr

  • Cyhoeddwyd
Ynys Bŷr

Mae abad presennol Ynys Bŷr wedi ymddiheuro am na chafodd honiadau bod mynach wedi cam-drin merched ifanc yn rhywiol ar yr ynys eu cyfeirio at yr awdurdodau.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y Brawd Daniel van Santvoort bod yr abaty "wedi gweithio i sicrhau na ddigwyddith yr un peth eto byth" a'u bod wedi llunio "canllawiau gwarchod plant cadarn".

Dywedodd bod yr honiadau yn erbyn y Tad Thaddeus Kotik yn "destun tristwch a gofid mawr" iddo pan ddaethon nhw i'w sylw.

Bellach mae 11 o fenywod yn honni eu bod nhw wedi cael eu cam-drin pan oedden nhw'n blant gan y mynach.

Gresynu unrhyw niwed

Ychwanegodd datganiad yr abad: "Dylai unrhyw honiadau o gam-drin plant gael eu trosglwyddo i'r awdurdodau perthnasol a'u hymchwilio.

"Yn amlwg, ni ddigwyddodd hynny ac rydyn yn ymddiheuro.

"Mae'n wir ddrwg gen i na gysylltodd fy rhagflaenwyr â'r heddlu ynglŷn â'r honiadau a bod yr abaty wedi cymryd cyhyd i gywiro'r cam."

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Tad Thaddeus Kotik yn 1992

Bu farw'r Tad Thaddeus Kotik yn 1992. Bu farw'r Tad Robert O'Brien - yr abad rhwng 1971 a 1987 pan ddigwyddodd y camdriniaeth honedig - yn 2009.

Ymunodd y Brawd Daniel â'r abaty yn 1990, ac fe gafodd ei benodi'n abad yn 1999.

Dywedodd mai yn 2014 y daeth i wybod am yr honiadau ar ôl i un o'r merched sy'n honni iddi gael ei cham-drin gysylltu ag o.

Fe gyfeiriodd y mater i'r heddlu ac i gyfreithwyr yr abaty, ac fe gadarnhaodd bod yr abaty wedi talu iawndal i chwech o fenywod yn 2016 heb wrandawiad llys.

Dywedodd y Brawd Daniel y bydd yr abaty'n cydweithio ag unrhyw ymchwiliadau pellach i'r achos, ac mae wedi penodi cydlynydd gwarchod plant.

Ychwanegodd: "Fe gymrais bob cam gyda thosturi, gan fynegi fy nhristwch a gofid ynghylch y fath gamdriniaeth. Fe wnes i hedfan i Awstralia i gyfarfod dwy o'r menywod, ac yn arbennig er mwyn ymddiheuro.

"Fel Abad, rwy'n gresynu unrhyw niwed gafodd ei achosi o ganlyniad gweithredoedd aelod o'n cymuned, ac rwy'n ymdrechu i wneud yn siwr bod ymwelwyr ag Ynys Bŷr yn cael dim byd ond heddwch, cysur a lles."