George North i ddychwelyd i chwarae yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae George North wedi chwarae dros Northampton ers bron i bum mlynedd
Bydd George North yn gadael tîm rygbi Northampton ar ddiwedd y tymor presennol, er mwyn dod yn ôl i Gymru.
Cadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru ei fod wedi cytuno i ddychwelyd ar gytundeb deuol.
Mewn datganiad, dywedodd clwb Northampton Saints eu bod yn "siomedig o golli chwaraewr o safon" North, ond eu bod yn deall ei bendefyniad i symud yn ôl i Gymru, i fod yn agosach i'w gartref.
Symudodd North, 25 oed, o'r Scarlets i Northmapton bron i bum mlynedd yn ôl.
Mae e wedi ennill 69 cap dros Gymru ers ei gêm gyntaf yn 2010.
"Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd tu hwnt," meddai North.
"Mae'r Seintiau wedi fy natblygu i fel chwaraewr ac wedi aros yn driw i mi drwy amseroedd caled, felly gyda chalon drom iawn yr ydw i wedi penderfynu symud ymlaen."
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, y bydd penderfyniad o fewn y misoedd nesaf ar ba ranbarth y bydd North yn ymuno â nhw.