Anrhydeddau'r Frenhines: Diolch, ond dim diolch

  • Cyhoeddwyd
MBE

Ar ddechrau blwyddyn newydd mae nifer o Gymry ymhlith yr unigolion sy'n cael eu anrhydeddu gan y Frenhines ond, dros y blynyddoedd, nid pawb sydd wedi derbyn y gwahoddiad.

Dyma hanes rhai o'r Cymry adnabyddus sydd wedi gwrthod anrhydedd:

Carwyn James

Roedd Carwyn James yn athro Cymraeg ac bu'n darlithio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Cafodd ddau gap dros Gymru yn 1958, ond mae'n cael ei gofio yn bennaf fel hyfforddwr rygbi athrylithgar.

Cafodd gynnig yr OBE fel cydnabyddiaeth am lywio tîm y Llewod i fuddugoliaeth yn y gyfres hanesyddol yn Seland Newydd yn 1971. Ond, fel cenedlaetholwr pybur, gwrthod yr anrhydedd wnaeth Carwyn. Dyn y pethe' oedd o ac roedd yn falch o gael ei dderbyn i Orsedd y Beirdd.

Hywel Gwynfryn

Cafodd y darlledwr Hywel Gwynfryn gynnig yr MBE yn yr 1980au ond fe wrthododd yr anrhydedd. Dywedodd wrth Cymru Fyw:

"Pan ges i'r cynnig o'n i newydd gael fy ngwneud yn gymrawd Prifysgol Bangor ac wedi cael y wisg werdd gan yr Orsedd, felly o'n i'n teimlo mod i wedi cael cydnabyddiaeth gan fy ngwlad.

"Rheiny ddylai gael eu cydnabod ydi'r rheiny sydd ddim fel arfer yn cael eu 'nabod', sef y gweithwyr elusen a'r bobl sy'n weithgar iawn yn y gymuned. Yn bersonol dwi ddim yn meddwl y dylai darlledwyr, newyddiadurwyr a phobl yn y maes dderbyn anrhydeddau."

Grace Williams

Roedd Grace Williams yn gerddor medrus iawn ac yn un o brif gyfansoddwyr Cymru. Cafodd ei geni yn Y Barri yn 1906.

Cafodd ysgoloriaeth i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, cyn mynd 'mlaen i'r Coleg Brenhinol Cerddoriaeth yn Llundain. Grace Williams oedd y ddynes gyntaf o Brydain i gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilm (Blue Scar, 1949), ac fe gyfansoddodd yr opera The Parlour yn 1961.

Cafodd gynnig OBE am ei gwasanaeth i gerddoriaeth yn 1967, ond fe'i gwrthododd. Mae stiwdio wedi'i henwi er cof am Grace Williams yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Bu farw yn Y Barri ym mis Chwefor 1977.

T E Lawrence

Cafodd y milwr, archeolegydd, newyddiadurwr ac anturiaethwr Thomas Edward Lawrence ei eni yn Nhremadog yn 1888, ond fel Lawrence of Arabia y mae'n cael ei 'nabod gan y rhan fwyaf. Cafodd ei anrhydeddu sawl gwaith, gan gynnwys y DSO yn dilyn Brwydr Tafilah yn 1918.

Yn Hydref 1918 cafodd Lawrence wahoddiad i Balas Buckingham. Roedd Lawrence yn meddwl bod y Brenin Siôr V am drafod ffiniau gwlad newydd i'r Arabiaid, ond yn hytrach fe gafodd gynnig i'w urddo yn Farchog (KBE).

Roedd Lawrence yn gweld penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri'r addewid o roi annibyniaeth i'r Arabiaid fel brâd ac fe wrthododd yr anrhydedd mewn protest.

Augustus John

Augustus John (1878 - 1961) yw un o arlunwyr mwyaf nodedig Cymru. Yn wreiddiol o Sir Benfro, daeth John yn enwog am dynnu lluniau o dirwedd ac, yn hwyrach yn ei yrfa, o bobl.

Fe beintiodd lawer o luniau o gymuned y sipsiwn yng Nghymru, a hefyd ei gyd-Gymro T E Lawrence a'r awdur W B Yeats.

Er ei fod o wedi derbyn Order of Merit am ei gyfraniad i'r celfyddydau gan y Brenin Siôr V yn 1942, mae'n debyg ei fod wedi gwrthod cael ei urddo yn Farchog yn ddiweddarach.

Richard Aaron

Roedd Richard Aaron yn wreiddiol o Flaendulais ac roedd yn Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth o 1932 i 1969. Roedd yn darlithio ym Mhrifysgol Yale yn yr Unol Daleithiau am gyfnod, ac roedd yn arbenigwr ar waith yr athronydd John Locke.

Gwrthododd Aaron CBE yn 1962, a dywedodd ei ferch, Jane Aaron, sydd hefyd yn academydd a llenor adnabyddus, wrth Cymru Fyw:

"Mab i deiliwr oedd fy nhad ac roedd e'n falch o'i gefndir a gwerthoedd dosbarth gweithiol. Rwy'n cofio doedd e ddim yn hoffi cael ei alw yn 'syr' gan bobl a doedd e ddim yn gweld ei hun fel rhan o'r 'sefydliad' o gwbl."

E Tegla Davies

Disgrifiad o’r llun,

E Tegla Davies

Roedd Edward Tegla Davies (1880-1967) yn weinidog gyda'r Wesleiaid ac yn llenor a oedd yn wreiddiol o Landegla ger Rhuthun.

Roedd yn ysgrifennu llyfrau i blant gan gynnwys y clasur, Nedw. Roedd Gŵr Pen y Bryn, ei unig nofel i oedolion, hefyd yn torri tîr newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.

Fe wrthododd Davies anrhydedd MBE yn 1963.

James Griffiths AS

Roedd Jim Griffiths yn ffigwr hollbwysig yn y broses o sefydlu'r Swyddfa Gymreig yn 1964, ac ef oedd Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru.

Dechreuodd ymwneud â gwleidyddiaeth drwy Undeb y Glowyr (NUM), ac roedd yn Aelod Seneddol dros Lanelli o 1936 hyd at 1970. Gwrthododd y cynnig i'w ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel arglwydd am oes.

Roald Dahl

Cafodd Roald Dahl ei eni yng Nghaerdydd yn 1916, yn fab i rieni o Norwy. Roedd yn enwog am 'sgrifennu llyfrau plant fel James and the Giant Peach, Charlie and the Chocolate Factory a The BFG.

Ond fe wrthododd Roald Dahl OBE yn 1986. Bu farw'r awdur bedair blynedd yn ddiweddarach yn 74 oed.